Ty Lleiaf Prydain Fawr, Conwy
Tŷ Lleiaf Prydain Fawr, Stryd Porth Isaf, Conwy
Peidiwch â chael eich twyllo gan ymddangosiad yr adeilad coch hwn. Chafodd o ddim ei adeiladu fel atyniad i dwristiaid nac fel estyniad i dŷ mwy.
Neu, lawrlwythwch mp3 (722KB)
Diolch i RNIB Cymru am y sain yma
Adeiladwyd tai mewn rhesi yn erbyn muriau tref ganoloesol Conwy. Adeiladwyd un rhes o ben gogleddol y stryd a’r llall o’r pen deheuol. Doedd y ddwy res ddim yn cyrraedd ei gilydd, ac yn y diwedd defnyddiwyd y bwlch rhyngddynt i greu cartref bach newydd, cost isel!
Roedd pobl yn byw yn y Tŷ Lleiaf tan 15 Mai 1900. Cafodd ei achub pan welodd Roger Dawson, golygydd y North Wales Weekly News, ei botensial.
Rhoddodd hysbyseb yn The Times yn gofyn i bobl os oeddent yn gwybod am dŷ llai unrhyw le arall ym Mhrydain.
Cafodd tai eraill eu mesur ond nid oedd yr un yn llai na’r tŷ hwn yng Nghonwy, sydd wedi ymddangos yn y Guinness Book of World Records am sawl blwyddyn.
Roedd y tŷ unwaith yn berchen i'r newyddiadurwraig Margaret Williams, a oedd yn aml yn cael tynnu ei llun tu allan i’r tŷ yn ei gwisg Gymreig. Bu farw yn 2015.
Os na fedrwch gredu bod rhywun wedi gallu byw mewn tŷ mor fach, edrychwch tu mewn i weld y trefniadau byw hynod. Byddwch wedi’ch synnu pan ddysgwch pwy oedd yn arfer byw yma!
Côd post: LL32 8BE Map