Cwt hufen ia Parisella
Cwt hufen iâ Parisella, Strydd Porth Isaf, Conwy
Symudodd lawer o Eidalwyr i Brydain yn hanner cyntaf yr 20ed ganrif i chwilio am waith. Daeth rhai â’r ddawn i wneud hufen iâ Eidalaidd. Yng Nghymru daeth sawl teulu yn adnabyddus am eu hufen iâ danteithiol, yn cynnwys teuluoedd Parisella yng Nghonwy, Sidoli yng Nglyn Ebwy, Minoli ger Caerffili, Sidoli yn Rhyl, a Dallavalle yn Rhydaman (cwmni hufen iâ Frank’s).
Llanc 16 mlynedd oedd Domenico Parisella pan gyrrhaeddodd Prydain ym 1912. Cafodd waith efo teulu Di Murro yn Greenock, ger Glasgow. Roedd eu busnes yn gwneud hufen iâ a bwydydd eraill. Yn raddol symudodd o gwmpas Prydain nes cyrraedd Llandudno, lle gweithiau yn siop teulu Forte yn gwneud hufen iâ. Ym 1949 cychwynodd ei fusnes hufen iâ ei hun yng Nghonwy, busnes a oedd yn cynnwys Parlwr Hufen Iâ Continental yn Lancaster Square.
Ffynnodd y busnes. Yn ei hanterth yn y 1970au, medrai gynhyrchu 130 galwyn o hufen iâ pob awr. Gwerthwyd peth o’r hufen iâ mewn siopau mor bell i ffwrdd â Birmingham. Bu farw Domenico ym 1976 ond llwyddodd y busnes teuluol i ymdopi â her masnach byd-eang a’r archfarchnadoedd. Mae’r busnes yn dal i lewyrchu heddiw, yn nwylo wyrion Domenico. Mae’r cwmni yn dal i gynhyrchu hufen iâ ger Lancaster Square ond bellach mae’n canolbwyntio ar hufen iâ crefftus, ychydig ar y tro, mewn nifer helaeth o flasau.
Postcode : LL32 8BE View Location Map
View Parisella's ice cream parlour HistoryPoints.org in a larger map