Cofgolofn Rhyfel Cricieth, Stryd Fawr
Cofgolofn Rhyfel Cricieth, Stryd Fawr
Mae cofgolofn y dref ar ffurf Neuadd Goffa. Y tu fewn mae rhestr o’r bobl lleol a bu farw yn ystod yr Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Am fwy o fanylion dewiswch categori isod.
Adeiladwyd y neuadd efo rhoddion cyhoeddus. Gosodwyd y garreg sylfaen ym mis Mehefin 1922 gan y Prif Weinidog David Lloyd George a fagwyd gerllaw ym mhentref Llanystumdwy. Mae drysau derw crwm gyda’r paneli gwydr Celf Deco gwreiddiol ynddynt yn amglychynu y Cyntedd Coffa. Rhoddwyd y giatiau haearn gyrru gan Sefydliad Y Merched Cricieth.
Adnewyddwyd yr adeilad yn yr 1970au gan bwyllgor rheoli a gymerodd yr adeilad drosodd gan y cyngor lleol. Cafwydd gwelliannau pellach yn yr 1990au gyda chymorth y Loteri Cenedlaethol gan wneud y neuadd yn leoliad addas ar gyfer digwyddiadau cymunedol ac adloniant o bob math.
Llongwyr yw llawer o’r enwau ar y gofeb. Maent yn cynnwys Capten Robert Thomas a gafodd ei longddryllio dwywaith cyn y rhyfel ac ar un achlysur goroesoedd am wyth diwrnod ym mad achub llong yn y De Iwerydd gyda’i wraig feichiog a’i fab ifanc. Fel ei dad, taid a mab bu farw ar y mor.
Gyda diolch i Adrian Hughes o amgueddfa Home Front, Llandudno, a Robert Cadwalader o Amgueddfa Morwrol Porthmadog
Côd post: LL52 0HB Map