Llongddrylliad llong o Efrog Newydd, ger Mochras
Llongddrylliad llong o Efrog Newydd, ger Mochras
Suddodd llong o fri a oedd yn perthyn i deulu Macy o Efrog Newydd ger Ynys Mochras yn 1825, wrth gludo afalau a nwyddau eraill i Lerpwl. Credir bod hadau o afalau a olchodd i’r lan yn gyfrifol am fath arbennig o ffrwyth sy'n dal i dyfu yn lleol.
Collwyd llongau di-ri yn y môr oddi ar Mochras lle mae rîff o’r enw Sarn Badrig yn ymestyn ymhell allan, o dan y tonnau. Un o'r damweiniau mwyaf rhyfeddol oedd colli'r Diamond, a adeiladwyd yn Manhattan i’r teulu Macy entrepreneuraidd - dywedwyd mai siop Macy yn Efrog Newydd oedd siop adrannol fwyaf y byd.
Roedd corff y Diamond wedi’i atgyfnerthu â haearn, i ennill mantais dros longau cystadleuwyr. Gallai groesi'r Iwerydd mewn dim ond tair wythnos, o'i gymharu â'r mis neu chwe wythnos a oedd bryd hynny yn arferol.
Roedd y rhan fwyaf o'r llong wedi ei neilltuo ar gyfer nwyddau, ond roedd lleoedd premiwm ar gyfer rhai teithwyr. Mae’r archeolegydd morol Mike Bowyer wedi cyfartalu teithwyr y Diamond â'r rhai a hedfanodd ar Concorde mewn oes ddiweddarach. Roedd y 28 o deithwyr a adawodd Efrog Newydd ar 12 Rhagfyr 1824 yn cynnwys pobl a oedd wedi gwneud eu ffortiwn yn yr Unol Daleithiau, a barwniaid cotwm o Loegr a oedd wedi taro bargeinion newydd gyda thyfwyr cotwm Americanaidd.
Yr oedd y llong o dan orchymyn Henry Macy yn hytrach na'r capten arferol Josia Macy, brawd Henry. O ganlyniad i wall mordwyo ar y noson o 2-3 Ionawr, tarodd y Diamond Sarn Badrig tua 1.5km o’r lan. Dim ond naw o'r teithwyr a'r criw a oroesodd, yn ôl adroddiadau. Roedd Henry, 33 oed, ymhlith y meirw.
Yn ôl chwedl leol, daeth afalau Americanaidd - danteithfwyd annhymhorol ym Mhrydain ym mis Ionawr - i'r lan o’r llongddrylliad a phlanwyd eu hadau yn lleol. Yn gynnar yn yr 21ain ganrif, sgwriodd Mr Bowyer ac Ian Sturrock (tyfwr coed ffrwythau) yr ardal am goeden a oedd wedi goroesi. Ar ôl tair blynedd, darganfyddon nhw hen goeden mewn gardd yn Nyffryn Ardudwy a oedd yn dwyn afalau coch llachar – yn wahanol i unrhyw fathau lleol. Roedd y preswylydd blaenorol wedi cael gwybod yn y 1950au bod y goeden yn ddisgynydd o’r afalau a ddaeth o’r Diamond.
Ni fedrai arbenigwyr sefydlu math yr afal coch, ond ei berthynas agosaf, mae'n debyg, ydi math o afal a nodwyd gyntaf oddeutu 1740 ym Massachusetts ac a allforiwyd yn aml i Ewrop yn y gaeaf. Impiodd Mr Sturrock bren o'r goeden ac mae’n gwerthu y math hwn o afal, o'r enw Diamond, o’i feithrinfa ym Mangor.