Gorsaf bad achub Abersoch
Gorsaf bad achub Abersoch, Min-y-Don
Sefydlodd y Royal National Lifeboat Institution orsaf bad achub yn Abersoch ym 1869. Cost adeiladu’r tŷ cwch oedd £170. Dim ond blwyddyn yn ddiweddarach, derbyniodd yr orsaf ei fedal arian cyntaf - a ddyfarnwyd i'r ysgrifennydd, y Parch Owen Lloyd Williams, am ei gyfraniad at achub 13 o ddynion o'r llong Kenilworth. Derbyniodd fedal arian arall ym 1879 am ei gwasanaethau dewr gyda badau achub Abersoch a Phorthdinllaen.
Mae’r llun uchaf (diolch i’r RNLI) yn dyddio o 1869 i 1892 ac yn dangos y tŷ cwch a’r bad Mabel Louise ar y cerbyd a ddefnyddiwyd i symud y bad at y môr ac yn ôl.
Codwyd yr adeilad sydd bellach yn cael ei adnabod yn lleol fel yr hen orsaf bad achub ym 1894, gyda'i llithrfa, ar gost o £1,350. Mae’r llun isaf (diolch i’r RNLI) yn dyddio o tua 1894 ac yn dangos aelodau’r criw efo’r bad achub ON335 Oldham. Caeodd yr orsaf ym 1931.
Ym 1965 agorodd gorsaf bad achub gyda’r glannau (inshore) yn Abersoch, efo bad achub dosbarth D. Adeiladwyd tŷ cwch newydd ym 1994, gyda lle ar gyfer y bad achub yn ogystal â'i troli a’r tractor sy'n tynnu’r bad at y môr ar gyfer lansio.
Yn 2002 derbyniodd yr orsaf o bad achub Atlantic 75, a enwyd Margaret Bench of Solihull ar ôl y ddynes a adawodd y pres i dalu am y gwch yn ei hewyllus. Mae trigolion gorllewin canolbarth Lloegr wedi ariannu badau achub yn Abersoch ers 1978.
Darperir gwasanaeth bad achub y DU nid gan y llywodraeth ond gan elusen yr RNLI. Ers ei sefydli ym 1824, amcangyfrifir i’r RNLI achub tua 140,000 o fywydau. Mae’n cyflogi rhai aelodau criw on mae’r mwyafrif, rhyw 40,000, yn wirfoddolwyr sy’n gadael eu gwaith, teuluoedd neu gwelyau i ateb galwadau brys.
Côd post: LL53 7AG Map