Cytiau glan môr Abersoch
Cytiau glan môr Abersoch
Mae rhai o’r cytiau lan môr yn Abersoch ymhlith yr eiddo drutaf yng Nghymru, wrth brisio yn ôl mesuriada’r llawr. Yn 2017, gwerthwyd un o’r cytiau am £160,000. Os ydych chi’n cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru, gallwch ddilyn y ffordd fer trwy faes parcio’r traeth i weld y cytiau.
Cyn y cytiau, roedd faniau ymdrochi, yn gabanau ar olwynion. Fel arfer câi’r faniau eu hurio gan ferched cefnog a phobl oedrannus, a fyddai’n eistedd yn y teclynnau ac yn cael eu cario i mewn ac allan o’r môr. Byddant yn newid i’w gwisg nofio, cyn dringo’r grisiau i’r dŵr, yn aml gyda chymorth dynion cydnerth a elwid yn “drochwyr”. Ym mis Hydref 1918, daeth llifogydd i Abersoch, ac fe gariwyd ymaith tua 30 o faniau ymdrochi a oedd yn eiddo i William Williams.
Codwyd cytiau traeth statig yn Abersoch yn hwyrach yn yr 20fed ganrif. Mae’n bosibl i rai o’r cytiau gael eu cludo yma ar ôl cael eu gwerthu fel offer milwrol di-angen wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Mae rhai o’r cytiau wedi eu gwerthu am bris uwch na phris tai, er nad oes ganddynt gyflenwad dŵr na thrydan, ac mae amodau ar y cytiau sy’n atal pobl rhag aros ynddynt dros nos. Yn 2008, synodd nifer o bobl leol pan werthodd un cwt am £70,000. Fodd bynnag, wyth mlynedd yn ddiweddarach gwerthodd cwt arall am £157,000.
Ond torrwyd y record hwnnw unwaith yn rhagor yn 2017 pan werthwyd un o’r cytiau am £160,000, neu £6,000 bob metr sgwâr o lawr. £1,378 oedd pris cyfartalog fesul metr sgwâr yng Ngwynedd yn 2016, a £2,161 yng Nghaerdydd.
Er mwyn amgyffred pam fod y cytiau mor atyniadol, mae’n rhaid cofio bod Abersoch ymhlith yr ychydig draethau yng Nghymru lle mae’r môr i’r dwyrain o’r tir. Mae’r gwynt yn chwythu o’r gorllewin fel arfer, felly gall pobl eistedd y tu mewn neu du allan i'w cytiau traeth er mwyn mwynhau’r olygfa gyda chysgod, a bwyta picnic heb gael tywod yn eu bwyd!
Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
Cod post: LL53 7EY Map
![]() |
![]() ![]() |