Cerflun ar bentir Llanbedrog
Cerflun ar bentir Llanbedrog
Mae’r cerflun a welir ar y pentir i'r de o Lanbedrog wedi ei osod ar safle lle roedd ffigwr blaen llong (“figurehead”) yn arfer bod yn yr 20fed ganrif.
Roedd cerfiadau o bobl neu anifeiliaid yn cael eu gosodwyd yn draddodiadol ar ben blaen llongau o'r canol oesoedd hyd at ddechrau'r 20fed ganrif. Llwyddodd teulu’r Andrews, a oedd yn berchen ar Oriel Plas Glyn-y-Weddw, i gadw ffigwr blaen o hen long a’i godi yma ar Fynydd Tir-y-Cwmwd yn oddeutu 1920. Denodd y cerflun ymwelwyr a thrigolion lleol am oddeutu 60 mlynedd, nes iddo gael ei fandaleiddio a’i losgi.
Gwelir y cerfiad oedd ar y safle yn y lluniau uchod, trwy garedigrwydd Oriel Plas Glyn-y-Weddw. Pan oedd yn dal yn rhan o’r llong, byddai’r ffigwr yn gwyro ymlaen ar ongl 45 gradd, gyda'i ben yn wynebu'r gorwel.
Ym mlynyddoedd cyntaf yr 1980au, comisiynwyd cerflun newydd gan Gyngor Cymuned Llanbedrog, i’w godi yn yr un lleoliad, gan yr arlunydd Simon Van de Put, a oedd yn byw yn y pentref ar y pryd. Gallwch weld y cerflun metel yn y llun isod, ond ni pharodd yn hir iawn yn y safle agored hwn.
Comisiynwyd y cerflun presennol gan y Cyngor fel rhan o ddathliadau’r mileniwm. Gwaith yr artist Berwyn Jones a’r gof Hugh Jones, y ddau yn wreiddiol o Lanbedrog, yw’r cerflun.
Mae Mynydd Tir-y-Cwmwd yn dir comin, a’i enw yn dynodi bod y tir yn eiddo i'r comisiwn lleol. Roedd chwarelwyr yn cerdded ar ei draws yn oes Fictoria i’r chwareli ar yr ochr ddeheuol. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd tramffyrdd yn cysylltu rhai o'r chwareli gyda dwy lanfa ar y traeth.
Gyda diolch i Iwan Hughes ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw am y lluniau, ac I AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
![]() |
![]() ![]() |