Caer Oes yr Haearn, Mynydd y Dref

Caer Oes yr Haearn, Mynydd y Dref

Olion caer Oes yr Haearn, sef Caer Seion (neu Gaer Lleion) ydi’r cerrig wrth gopa Mynydd y Dref. Defnyddiwyd y gaer rhwng tua 300CC a 78OC, mae’n debyg. Eisteddau caerau ar dir uchel yng ngorllewin Prydain gan fod y lleoliadau hyn yn anoddach i’w cipio na llefydd mewn dyffrynoedd. Roedd y cymunedau yn y caerau yn ffermio’r tiroedd cyfagos.

Yn y 1950au, darganfyddwyd creiriau cyn-Rufeinig yng Nghaer Seion yn cynnwys offer nyddu gwlan a mwy na 400 o gerrig llyfn – yn barod i’w saethu at ymosodwyr gan ddefnyddio ffyn dafl. Ni ddarganfyddwyd olion Rhufeinig yma – effalai’n arwyddo fod y gaer wedi mynd yn adfael gyda dyfodiad y Rhufeiniaid. Mae’n bosibl fod y Rhufeiniaid wedi dryllio’r muriau a gorfodi’r trigolion i fyw ar diroedd is, lle y byddai rheolaeth yn haws.

Mae na dystiolaeth fod Caer Seion wedi cynnwys rhan gaerog bach tu mewn i’w muriau cylchfesurol. Er nad adeiladwyd y ddwy ran yr un pryd, mae’n debyg y defnyddiwyd y ddwy gyda’i gilydd ar yn adeg. Does gan yr un caer bryniog arall yng Nghymru batrwm tebyg. Efallai y codwyd y rhan lleiaf fel adwaith at ddyfodiad y Rhufeiniaid i Gymru. Yn ei lyfr Hillforts of Northern Wales, mae Michael Senior yn dyfalu y gallai’r rhan lleiaf fod wedi darparu diogelwch ychwanegol i elît y gymuned – yn union fel y gwnaeth Castell Conwy y tu mewn i’r dref gaerog a godwyd mwy na mil o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae gweddillion tua 50 o gytiau wedi’u darganfod tu mewn i brif waliau Caer Seion, a saith yn y rhan lleiaf. Mi fyddai’r cytiau wedi’u gwneud o bren, gwellt a cherrig.

Map

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button