Tŵr cloc Bangor
Mae'r tŵr cloc hwn yn grair o ymryson gwleidyddol dros faer haeddiannol Bangor. Sefydlodd yr achos cyfreithiol fod yn rhaid i swyddogion canlyniadau etholiadau ym Mhrydain fod yn ddiduedd – gweler isod.
Mae plac ar dŵr y cloc yn cofnodi i'r strwythur gael ei gyflwyno i'r ddinas gan yr Haeniadur Thomas Lewis "yn ystod ei faeroliaeth". Mae'n enwi'r pensaer Archibald Neill o Leeds a'r adeiladwr Thomas J Humphreys o Fangor.
Mae'r tŵr 14 metr (47 troedfedd) mewn steil "Queen Ann" ac wedi'i adeiladu o frics coch Rhiwabon, gyda gromen o garreg Cefn. Y tu mewn, mae grisiau yn arwain at y cloc, a adeiladwyd gan William Potts & Sons o Leeds i ddyluniadau yr Arglwydd Grimthorpe. Fel y cafodd ei adeiladu, roedd gan y cloc bedwar wyneb goleuedig a "chloch deg" i seinio'r oriau.
Ar ddadorchuddio'r cloc ym mis Mai 1887, gosododd y faeres y cloc i symud yn seremonïol. Yn 1904 torrodd y "morthwyl enfawr" wrth daro 11am. Syrthiodd mewn "cawod o foltiau a nytiau", gan fethu cabman o drwch blewyn.
Dechreuodd "bwnglerwch trefol Bangor" pan geisiodd y cynghorydd Ceidwadol John Pritchard gael ei ailethol yn 1886. Ei unig wrthwynebydd oedd yr henadur Rhyddfrydol Meshach Roberts (pleidleisiwyd yr henaduriaid gan gynghorwyr yn hytrach na'r cyhoedd). Dywedodd y Ceidwadwyr nad oedd Meshach yn gymwys gan ei fod eisoes ar y cyngor. Enillodd y nifer fwyaf o bleidleisiau ond datganodd y swyddog canlyniadau, Cyrnol Platt, mai John oedd yr enillydd!
Gwnaeth yr etholiad adael y cyngor yn gytbwys gyfartal. Yn y cyfarfod nesaf, datganwyd bod John Pritchard a Thomas Lewis ill dau yn faer newydd gan eu priod bartïon, gan sbarduno anghydfod a aeth drwy'r llysoedd nes i'r Llys Apêl gadarnhau mai Thomas oedd y maer cywir ym mis Rhagfyr 1886.
Erbyn hynny roedd tŵr y cloc yn cael ei adeiladu. Roedd yr arysgrif am faer Thomas yn rhwbio halen i glwyfau ei wrthwynebwyr. Nid oedd y Torïaid wedi gorffen gyda'r mater, ond ym mis Mawrth 1888 cadarnhaodd Tŷ'r Arglwyddi ddyfarniad y Llys Apêl.
Craidd yr achos oedd bod y Cyrnol Platt wedi penderfynu bod un o'r ymgeiswyr yn anghymwys. Y ddadl Rhyddfrydol oedd, pe bai swyddogion canlyniadau yn cael y fath ddisgresiwn, gallent gael eu dylanwadu gan ragfarn neu lwgrwobrwyon gwleidyddol. Cyfeiriodd yr Arglwyddi at Ddeddf Pleidleisio 1872 a dywedwyd fod rhaid i swyddogion canlyniadau gyfyngu eu hunain i weinyddiaeth (cyfrif y pleidleisiau a datgan y canlyniad) a dim ond ar ddilysrwydd papurau pleidleisio y gallent arfer barn. Mae'r dyfarniad yn dal i fod hyd heddiw.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL57 1RT Gweld Map Lleoliad