Gorsaf reilffordd Bangor

sign-out

Gorsaf reilffordd Bangor, Ffordd Caergybi

Am ddwy flynedd, o fis Mai 1848, yr orsaf hon oedd terfynfa y Chester & Holyhead Railway. Gyda chwblhau Pont Britannia yn 1850, gallai’r Irish Mail a threnau eraill barhau i borthladd yng Nghaergybi. Roedd yr orsaf a'r depo a leolwyd i'r de wedi eu hamgylchynu gan fryniau ar y ddau ben, a bu rhaid creu twnelau rheilffordd trwy’r bryniau.

Cynlluniwyd y prif adeilad, i'r dwyrain o'r fynedfa bresennol, gan Francis Thompson, pensaer y cwmni rheilffordd. Y man gorau efallai i werthfawrogi ffurf ac addurniadau yr adeilad ydi o'r llwyfan gyferbyn. Roedd Thompson wedi gweithio'n gyntaf gyda Robert Stephenson, peiriannydd y rheilffordd, ar ddiwedd y 1830au yn ystod adeiladu’r North Midland Railway. Ar gyfer hyn fe gynlluniodd gwesty ysblennydd y Midland yn Derby, ymhlith adeiladau eraill.

Ychwanegwyd y neuadd archebu a’r fynedfa i'r bont droed gan gwmni’r London Midland & Scottish Railway yn 1927, fel rhan o raglen o wella ac ehangu'r orsaf.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudodd plant o Lerpwl a Chilgwri i Fangor i fyw, gan fod y llywodraeth yn pryderu am eu diogelwch rhag ymosodiad awyr. Yn y ddau ddiwrnod cyn i'r rhyfel gychwyn ar 3 Medi 1939, ac am ychydig o ddyddiau wedyn, daeth trenau â bron i 2,000 o blant a'u hathrawon i orsaf Bangor. Bu Gwasanaeth Gwirfoddol y Merched yn brysur yn dod o hyd i gartref i bob plentyn. Gwirfoddolodd rhai pobl leol i gael faciwî yn lletya gyda hwy, ond pan nad oedd digon o lety ar gael defnyddiodd yr awdurdodau pwerau gorfodol i wneud i berchnogion tai i dderbyn plant. Ar ôl i lannau’r Merswy ddioddef bomio trwm ym Mai 1940, gwelodd gorsaf Bangor hyd yn oed mwy faciwîs yn cyrraedd yn y ddinas.

Yn 2011 chwalwyd yr hen depo trenau a chrewyd maes parcio ar y safle, gan gadarnhau sefyllfa Bangor fel y brif orsaf ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o amgueddfa Home Front, Llandudno

Côd post: LL57 1LZ    Map