Man geni Sir Henry Jones, Llangernyw
Man geni Sir Henry Jones, Llangernyw
Cafodd yr Athronydd a’r diwygiwr addysgol Syr Henry Jones ei eni yn y bwthyn hwn, a elwir Y Cwm, ar 30 Tachwedd 1852. Mae'r adeilad wedi bod yn amgueddfa ers 1934.
Ar ôl gadael yr ysgol yn 12 oed, gweithiodd Henry gyda'i dad, crydd y pentref, yn ystod y dydd. Cafodd ei annog i astudio, a "gweithio gyda’m llyfrau... drwy’r oriau mân a than doriad gwawr" enillodd ysgoloriaeth i hyfforddi’n athro. Yn y pen draw daeth yn Athro Athroniaeth Foesol ym Mhrifysgol Glasgow.
Dylanwadwyd yn fawr ar waith Henry fel athronydd ac athro gan weithdy'r crydd a bywyd yn ei bentref genedigol. Ni anghofiodd ei dras werinol a bu’n gweithio'n galed i wella'r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Arweiniodd ei ymgyrchu at Ddeddf Addysg Ganolradd Cymru 1889, a oedd yn galluogi pobl ifanc nad oedd eu teuluoedd yn gallu fforddio addysg breifat i barhau â'u haddysg ar ôl y cyfnod cynradd.
Roedd yn ffigwr allweddol yn natblygiad addysg prifysgol yng Nghymru a helpodd i sefydlu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, ym Mangor, ym 1884. Ef oedd ei Hathro cyntaf Rhesymeg, Athroniaeth ac Economi Wleidyddol. Roedd un o'i feibion, Elias, yn gofrestrydd yno’n ddiweddarach, ar ôl ysgrifennu cofnod a werthwyd orau o gaethiwed Twrcaidd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd mab arall ei ladd yn y rhyfel hwnnw.
Cafodd Henry ei urddo’n farchog ym 1912 a gwnaed ef yn Gydymaith Anrhydedd ym 1922. Yn dilyn ei farwolaeth yn yr un flwyddyn, cafodd cronfa goffa ei sefydlu. Cafodd cartref ei blentyndod ei agor fel amgueddfa, lle gallwch barhau i ymweld â gweithdy'r crydd a'r gegin a’r ystafell wely fechan lle'r oedd Henry a'i deulu’n gweithio ac yn byw. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y capel, yr ysgol a bywyd mewn pentref ucheldirol anghysbell - "y math o gartref lle tarddodd y rhan fwyaf o’r gorau yng Nghymru ohono," ym marn Syr Henry.
Mae gan yr amgueddfa daith glywedol ryngweithiol rhad ac am ddim, yn cynnwys ffilm, lluniau a gemau.
Cod post: LL22 8PR Map
Gwefan Amgueddfa Syr Henry Jones