Ysgol yr Eglwys, Llanengan
Yn Awst 1846 arwyddwyd cytundeb gan William Williams, Rheithor Plwyf Llanengan, i godi a chynnal Ysgol Genedlaethol ar dir Llain y Llan, tir a roddwyd i'r pwrpas gan y tirfeddiannwr, Thomas Assheton-Smith o’r Faenol, Bangor.
Canlyniad oedd hyn i wŷs a roddwyd i'r Eglwys yn Awst 1840, drwy awdurdod y Frenhines, i godi ysgolion i'r tlodion drwy Gymru a Lloegr i'w goruchwylio gan Arolygwyr ei Mawrhydi. Addysgu'r plant yn egwyddorion yr Eglwys oedd y nod, gan gynnwys darllen,ysgrifennu a rhifo yn Saesneg.
I bensaer Assheton-Smith, Henry Kennedy, mae'r diolch am gynllun cain ac unigryw yr ysgol hon. Gwelir dylanwad canoloesol yr Iseldiroedd ar y talmeini hardd nad oes eu tebyg mewn unrhyw ysgol arall o'i chyfnod yn Llŷn. Bu'r ysgol yn gyfrwng addysg plant yr ardal rhwng 1846-1909.
Fe'i caewyd oherwydd agosrwydd ysgol Sarn Bach, a sefydlwyd ers dros ddegawd, ond bu raid ail ddefnyddio'r adeilad rhwng 1929 a 1936 pan fu atgyweirio helaeth ar Ysgol Sarn Bach. Mae'r hen ysgol bellach yn dŷ annedd ac wedi ei gofrestru gan Cadw.
Diolch i grŵp Diogelu Enwau Llanengan
Cod post: LL53 7LH Map