Corn simdde gwaith plwm Tan’rallt, Llanengan
Y corn uwchben y pentref yw un o olion mwyaf amlwg gwaith plwm Tan’rallt a’r tipiau yw gwastraff y gwaith hwnnw.
Cychwynnwyd y gwaith tua 1869 gan ddau Gymro, Evan Lloyd Edwards, yn wreiddiol o Feddgelert, a’i fab Edward, dau gyda phrofiad helaeth o fwyngloddio wedi gweithio am flynyddoedd yng ngweithfeydd copr Dyffryn Nantlle. Er i lawer amau eu menter ar y pryd cafodd y ddau eu profi’n gywir pan ddarganfuwyd, yn ôl rhai arbenigwyr, y wythȉen orau o blwm pur a welwyd ers blynyddoedd yng Ngogledd Cymru. Yn fuan daeth eu llwyddiant i sylw anturiaethwyr o Lundain a chynigiwyd ffortiwn i’r ddau am y gwaith.
Er iddynt fuddsoddi’n sylweddol yn y strwythur, methodd y cwmni newydd o Lundain ȃ gwneud llwyddiant o’u menter a gwelodd Thomas Grundy, gŵr cyfoethog o Gernyw, ei gyfle i ddatblygu’r gwaith.
Doedd cwmni Gundry ddim y gorau am gadw cofnodion, ond ym mlynyddoedd cynnar y fenter credir iddynt gario dros 400 tunnell o blwm i’r llongau ym Mhorth Fawr. Cludid y mwyn wedyn i lefydd fel Ellesmere Port, Sir Gaer i gael ei brosesu. Erbyn 1876 roedd dŵr tan ddaear yn broblem, a bu’n rhaid dod ȃ’r gwaith i ben dros dro nes cael peiriant cryfach i’w waredu.
Ym 1878 cafwyd peiriant mwy, a chodwyd y corn a welir heddiw ar ei gyfer. Erbyn hyn roedd y siafft wedi cyrraedd dyfnder o 80 gwryd gyda lefelau i’r dwyrain am Borth Fawr ac i’r gorllewin tuag at Borth Neigwl. Wedi cael trefn ar y dŵr cychwynnwyd eto. Cyflogwyd tua 60 o weithwyr, amryw ohonynt o Gernyw, a chodwyd oddeutu 450 tunnell arall. Ond yn fuan aeth plwm o safon yn y lefelau isaf yn brin, ac oherwydd hyn a chost ychwanegol y glo ar gyfer y pwmp newydd aeth yn amhosib rhedeg y gwaith yn broffidiol, a daeth y cyfan i ben ym 1883. Cofrestrwyd y corn fel adeilad gradd 2 gan Cadw ym 1989.
Diolch i grŵp Diogelu Enwau Llanengan