Safle gorsaf drosglwyddo Marconi, ger Waunfawr

button_lang_englishSafle gorsaf drosglwyddo Marconi, ger Waunfawr

Ym 1913 agorodd yr arloeswr radio Guglielmo Marconi orsaf drosglwyddo ddiwifr donfedd-hir gyntaf Prydain ar ochr y bryn hwn. Ymwelodd â’r safle lawer gwaith yn ystod adeiladu’r orsaf, gan aros yng Ngwesty’r Royal yng Nghaernarfon. Daethai i amlygrwydd ym 1897 trwy anfon y trawsyriad diwifr cyntaf y byd dros ddŵr, ger Caerdydd.

Bu’r orsaf yn gyfleuster unigryw a hanfodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ddiweddarach, gan beri bod modd cyfathrebu’n swyddogol ag UDA ac Awstralia a chyda llongau yng Ngogledd yr Iwerydd. Gallwch weld rhai o sylfeini’r adeiladau a’r mastiau hyd heddiw. Caeodd yr orsaf ym 1938.

Ar ddechrau’r 20fed ganrif, yr oedd y ‘Marconi Wireless Telegraph Company’ eisiau parhau  â’r gwasanaeth trawsiwerydd proffidiol a agorwyd ganddynt ym 1907 yn Clifden, Iwerddon, oedd wedi mynd yn llai effeithiol oherwydd methiannau yn y llinell tir.

waunfawr_marconi_station_light_railwayPrynwyd tir ar 260m (850tr) uwchlaw lefel y môr ar allt Cefn Du rhwng 1912 a 1914 am gyfanswm o £2,055. Codwyd barics, adeilad trawsyrrydd a deg mast dur. Gallwch weld llun o waelod un o’r mastiau ar ein tudalen Saesneg.

Cafodd dros 7,000 tunnell o ddeunydd ar drên i Lanrug, yna trwy beiriannau tynnu ac yn olaf ar drên bach i fyny’r mynydd (a welir yn y llun trwy garedigrwydd The Marconi Company Limited). Daeth y gwaith i redeg yn llawn ym mis Gorffennaf 1914 ar gost o £50,000.

Anfonwyd y neges teligraff diwifr cyntaf i Awstralia i Wahroonga, NSW, ar Fedi 22 1918. Erbyn Mawrth 1920 yr oedd gwasanaeth masnachol o Gaernarfon i New Jersey, UDA, yn rhedeg yn llwyddiannus.

Derbyniodd yr orsaf well technoleg, gan ddefnyddio falfiau, yn y 1920au. Fodd bynnag, datblygiadau technegol mewn mannau eraill yn y 1930au oedd dechrau’r diwedd. I ddechrau, cafodd swyddogaethau’r orsaf eu hisraddio. Yna, oherwydd difrod difrifol gan storm, fe’i caewyd gan yr awdurdodau, ac yr oedd yr holl erialau a’u strwythurau wedi eu symud pan gychwynnodd yr Ail Ryfel Byd.

Am fwy o wybodaeth fanwl, gweler y Troednodiadau isod, a’r llyfr Marconi and his wireless stations in Wales, gan Hari Williams, a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch ym 1999.

Map

Troednodiadau: Manylion yr orsaf

waunfawr_marconi_station_valve_transmitterDadwefrydd disg cydamseryddol oedd y trawsyrrydd gwreiddiol wedi’i bweru gan gyflenwad tri-chyfnod 30kV a gynhyrchwyd gan orsaf trydan-dŵr Cwm Dyli  Cwmni Pŵer Gogledd Cymru. Cynhaliwyd yr erial gwreiddiol gan ddeg mast 120m (400tr) wedi’u gosod mewn 4 rhes, 275m (900tr) ar wahân. Yr oedd y rhes gyntaf 137m (450tr) o led, a’r olaf 183m (600tr) o led.

Ym Mehefin 1916 rhoddwyd dadwefryddion disg wedi’u hamseru yn lle’r trawsyryddion. Gosodwyd trawsyryddion Poulson Arc fel rhai wrth gefn ym 1918 a rhoddwyd 100amp yn yr erial.

Gwnaed yr orsaf yn fwy effeithlon trwy ddefnyddio “sgrin ddaear”, a gymerodd le’r ddaear gladdedig wreiddiol. Eiliaduron Alexanderson 200kW oedd yn cael eu defnyddio erbyn 1921.

Daeth yn amlwg y byddai falfiau (a welir yn y llun trwy garedigrwydd GEC-Marconi Photographic Services, Great Baddow) yn fuan iawn yn cymryd lle systemau trawsyrru eraill, a gosodwyd panel 56-falf. Yr oedd y falfiau yn cael eu hoeri gan gerrynt o aer, gan roi 340amp yn yr erial. Yr oedd Marconi yn gyndyn o ddefnyddio falfiau ar gyfer y gwasanaeth masnachol, gan ddefnyddio’r 56 falf o Fedi 1922 ymlaen yn unig.  Rhoddodd trawsyrrydd falf wedi’i oeri â dŵr, a osodwyd ym Mai 1922, 560amp yn yr erial a daeth i wasanaeth masnachol ym mis Rhagfyr 1923. Yng ngwanwyn 1924 ychwanegwyd 15 o falfiau eraill oedd yn cael eu hoeri â dŵr. Yr oeddent yn cael eu defnyddio yn fasnachol erbyn Hydref 1924.

Gallwch weld llun arall o falfiau ar ein tudalen Saesneg.