Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd

Crewyd y warchodfa hon ger aber yr afon Wysg yn y 1990au hwyr, ac fe’i haforwyd yn swyddogol yn 2000. Y bwriad oedd i ddigolledu am y fflatiau llaid helaeth a ddiflanodd o dan ddŵr gyda chwblhau morglawdd Bae Caerdydd. Roedd nifer o adar hirgoes yn bwydo ar y llaid a ymddangosai gyda phob llanw isel o gwmpas aberoedd y Taf ac Elái.

Arwynebedd y warchodfa yw 4.38 km sgwâr (438 hectar) ac mae’n cynnwys sawl math o gynefin, yn eu plith gwelyau cyrs, morfeydd heli, lagynau heli a glaswelltir iseldir gwlyb. Yn 2008 fe'i dynodwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol, yn arwydd aeddfedrwydd a gwerth y tir newydd fel cynefin i fywyd gwyllt.

Mae madfallod cribog, rhywogaeth gwarchodedig, ymhlith y trigolion. Ymhlith y mathau o adar a welir ar y warchodfa ar wahanol adegau o'r flwyddyn y mae’r titw barfog, y gornchwiglen, pibydd y mawn, yr wyach fach, yr hwyaden lydanbig a’r crëyr bach, rhywogaeth nad oedd yn ymddangos mewn niferoedd sylweddol ym Mhrydain tan 1988. Mae aderyn y bwn unig - rhywogaeth prin a swil – wedi ymddangos ar y warchodfa yn y rhan fwyaf o’r gaeafau ers 2001. Gwelir yma ysgyfarnogod a dyfrgwn hefyd.

Rheolir y warchodfa gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a'r RSPB. Mae’r cyhoedd yn cael mynediad am ddim. Mae’r 6km o lwybrau ar y warchodfa yn galluogi i ymwelwyr gerdded at oleudy East Usk, a adeiladwyd ym 1893.

Côd post: NP18 2BZ

Cyfeirnod grid: ST334834    Map

Y warchodfa ar wefan yr RSPB

Y warchodfa ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button