Hen orsaf yr heddlu, Dolgellau
Hen orsaf yr heddlu, Dolgellau
Cadwyd pobl ddrwgdybiedig mewn amodau Spartaidd yma wedi i’r orsaf heddlu gael ei adeiladu yn y nghanol y 19eg ganrif. Yn 1880 dyfarnwyd y celloedd yn "hollol anaddas" ac amlinellwyd cynlluniau ar gyfer awyru dau ohonynt o'r iard gefn a'r trydydd o'r stryd o flaen yr adeilad. Yn 1908 ychwanegwyd offer gwresogi at ddau o'r celloedd.
Efallai mai'r person mwyaf drwg-enwog a ddaliwyd yma oedd ffermwr o’r enw Cadwaladr Jones. Cafodd ei arestio ym mis Gorffennaf 1877 ar ôl i rannau o gorff Sarah Hughes cael eu darganfod ar hyd yr afon Aran ger Dolgellau. Roedd Jones, 25 oed, wedi priodi merch arall ym mis Rhagfyr 1876. Roedd yn adnabod Sarah Hughes drwy ei gweini yn nhŷ ei dad. Roedd y llawfeddyg a archwiliodd rannau o’i chorff yn meddwl ei bod yn feichiog pan gafodd ei lladd.
Yng Nghaer, cafwyd Jones yn euog o'i llofruddio. Cyfieithwyd ei ddedfryd marwolaeth i'r Gymraeg ar ei gyfer, ac yna daeth ton o emosiwn drosto a bu'n rhaid i wardeiniaid ei helpu allan o'r doc. Cafodd ei grogi yn Nolgellau ym mis Tachwedd 1877 – y dienyddio cyntaf yn y dref ers yr “Hwntw Mawr” yn 1812. Daethpwyd o hyd i un o goesau Sarah Hughes yn yr afon ym mis Mehefin 1878.
Ym mis Ebrill 1888 roedd "cyffro mawr" pan ddaeth dau swyddog yr heddlu ȃ dau fwngloddwr i'r orsaf o fwynglawdd aur Gwynfynydd, a oedd wedi agor yn ddiweddar. Roedd Evan a Benjamin Morgan, o Dalybont, Ceredigion, yn cychwyn am adref ar gyfer gwyliau'r Pasg pan gawsant eu stopio. Roeddent wedi cuddio darnau o gwarts yn eu dillad. Roedd y cwarts yn cynnwys gwerth oddeutu £20 o aur. Cawsant eu dal am fod perchennog y mywnglawdd wedi cyflogi dau gwnstabl yr heddlu i gadw golwg ar y safle.
Symudodd yr heddlu i hen sinema, i’r gogledd o'r dref, ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Daeth yr hen orsaf yn swyddfa ar gyfer y gwasanaeth prawf. Mae bellach yn gartref i Fantell Gwynedd, sy'n cefnogi grwpiau gwirfoddol a chymunedol.
Cod post: LL55 1AB Map