Cerflun o chwythwr corn y chwarel, Llys Dafydd, Bethesda
Cerflun o chwythwr corn y chwarel, Llys Dafydd, Bethesda
Agorwyd Llys Dafydd fel man ar gyfer y gymuned yn 2011. Siopau a thai oedd yma ar un adeg. Ysbrydolwyd y cerflun dur hwn gan y llun ar y dde (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd) o chwarelwr yn rhoi’r rhybudd ar gyfer ffrwydro yn Chwarel y Penrhyn ym 1913.
Gwnaed y cerflun yn 2010 gan Ann Catrin Evans, a welodd y biwglwr fel symbol o rywun yn galw pobl i ddod i’r llecyn agored newydd. Ysbrydolwyd ei chynllun ar gyfer y rheiliau yma gan resi o lechi yn gorwedd ar ben ei gilydd ar ôl cael eu hollti. Seiliwyd y giât ar siapiau’r cerbydau 'Blondin' ar raffau yn yr awyr, a ddefnyddid mewn chwareli.
Byddai sain y biwgl yn rhybuddio’r chwarelwyr i ymochel cyn ffrwydradau ac wedyn yn nodi bod popeth yn ddiogel eto. Tynnwyd y llun gan y ffotograffydd John Wickens, Bangor, ac mae wedi’i ddefnyddio ar gyfer arddangosfeydd, cloriau llyfrau a hyd yn oed boteli cwrw gan y bragdy lleol, Cwrw Ogwen. Er bod y llun yn adnabyddus, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod pwy oedd y chwarelwr. Felly, pwy ydoedd?
Cafodd Hugh Llechid Williams, oedd yn 40 oed pan dynnwyd y llun, ei eni yn Llanllechid, yn fab i chwarelwr sef John Williams. Bu’n was fferm i ddechrau ac yna erbyn 1899 roedd yn gweithio yn y chwarel. Yn y flwyddyn honno, priododd â Lucy Jaret o Amlwch. Roedd Lucy yn byw yng Ngwesty Victoria, Bethesda, ac efallai yn gweithio yno. Yn y 1920au, ac efallai cyn hynny, roeddent yn byw ym Mraichmelyn, Bethesda.
Fel llawer o chwarelwyr eraill, roedd Hugh yn mwynhau canu. Roedd yn aelod o Gôr Eglwys Glanogwen a Chôr y Penrhyn, a deithiai drwy Gymru a Lloegr yn ystod y streiciau yn Chwarel y Penrhyn i godi arian i deuluoedd y streicwyr. Mae i’w weld yn eistedd, yr ail o’r dde, yn llun y côr.
Un o’r tenoriaid oedd Hugh a byddai’n canu fel unawdydd ac yn canu deuawdau, weithiau gyda’i frawd Owen. Ym 1899 nododd y papur lleol, Gwalia, fod Hugh wedi canu Marwolaeth Nelson yn wych fel arfer, er gwaethaf annwyd trwm!
Cafodd Hugh a Lucy chwech o blant. Bu farw eu mab ieuengaf Maldwyn o lid yr ymennydd darfodedigaethol yn 16 oed. Bu farw Lucy bedair blynedd yn ddiweddarach yn 54 oed. Gweithiai Hugh yn y chwarel tan ei farwolaeth ar 1 Gorffennaf 1933 yn 60 oed o ddyfrchwydd yr ysgyfaint a llid llabedol yr ysgyfaint (roedd cyflyrau’r ysgyfaint yn gyffredin ymhlith chwarelwyr). Gorymdeithiodd clerigwyr a chôr Eglwys Glanogwen yn eu mentyll ar flaen yr orymdaith i Fynwent Coetmor a chanodd biwglwr y chwarel, Jack Edwards, Bangor, y Caniad Olaf adeg ffrwydrad 3 o’r gloch y chwarel fel “teyrnged deimladwy”.
Gyda diolch i deulu Hugh ac yn arbennig i’w wyres Margaret, ac i’r Dr Hazel Pierce, The History House. Cyfieithiad gan Dr Paul Rowlinson
Cod post: LL57 3AN Map
Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Gwefan y cerflunydd Ann Catrin Evans