Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron
Mae rhan o waliau’r eglwys hon yn dyddio o’r 12fed ganrif, pan ddisodlwyd llawer o eglwysi pren y cyfnod gan Frenin Gwynedd gyda strwythurau carreg cadarn. Roedd yr eglwys yn hafan lle gallai unrhyw ffoadur aros am 40 diwrnod. Hefyd roedd cadair yn yr eglwys – cadair heddwch – yn cael ei defnyddio ar gyfer penderfynu ar anghytundebau lleol. Yr oedd yma hefyd glas eglwysig - sef sefydliad o'r eglwys Geltaidd yn debyg i fynachlog ond heb deyrngarwch i unrhyw urdd mynachaidd.
Ehangwyd Eglwys Hywyn Sant yn y 14eg a’r 15fed ganrif ac roedd angen ei hadfer yn y 19eg ganrif a 1906 ar ôl diffyg cynnal a chadw am gyfnodau maith. Yn y 1990au gosodwyd amddiffynfeydd morol newydd i atal yr eglwys rhag cael ei thanseilio. Mae’r hen lun (trwy garedigrwydd gwefan hanes lleol Rhiw.com) yn dangos llong hwylio ar y traeth, bron tu allan i fynedfa’r eglwys!
Mae agosatrwydd yr eglwys i’r môr yn tanlinellu ei pherthynas ag Ynys Enlli, yr ynys i’r gorllewin. Teithiodd Seintiau Hywyn, Cadfan a Lleuddad o Lydaw i Aberdaron yn y 6ed ganrif. Arhosodd Hywyn, gan bregethu i'r trigolion lleol o'i gell bren syml. Croesodd Cadfan Sant y swnt i Enlli, lle sefydlodd dŷ crefyddol a ddaeth yn gyrchfan o bwys i bererinion. Yn ôl y chwedl, mae 20,000 o seintiau wedi'u claddu ar yr ynys. Dengys cofnodion fod eglwysi Aberdaron ac Ynys Enlli wedi parhau i fod â chysylltiadau agos yn y 15fed ganrif.
Am bron i 300 mlynedd o 1624 ymlaen, bu Coleg Sant Ioan, Caergrawnt, yn noddwr i blwyf Aberdaron. Roedd disgwyl i un offeiriad yn y cyfnod hwnnw, Rowland Simpson, gymryd gwasanaethau Cymraeg er nad oedd yn gallu siarad Cymraeg!
Bu farw Vernon Owen, unig fab rheithor Aberdaron Thomas Edward Owen, yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ei enw ar y gofeb rhyfel yn y fynwent. Cliciwch yma am fanylion y rhai lleol a fu farw yn y rhyfeloedd.
Roedd y bardd RS Thomas (1923-2000) yn ficer Aberdaron rhwng 1967-1978. Ganed ef yng Nghaerdydd, yn fab i gapten llong, ac ordeiniwyd ef yn 1936. Darparodd tirwedd a phobl Aberdaron ysbrydoliaeth farddonol iddo, a pharhaodd i fyw gerllaw ar ôl ymddeol fel ficer. Mae un o’i gerddi wedi ei gerfio ar lechen sydd wedi’i harddangos y tu mewn i Eglwys Sant Hywyn.
Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
Cod post: LL53 8BE Map