Gwesty’r Douglas Arms, Bethesda

Gwesty’r Douglas Arms, Bethesda

bethesda_douglas_arms_hotelCredir bod y gwesty hwn wedi’i godi tua 1820-1830 er mwyn cynnig llety i deithwyr ar ffordd newydd Thomas Telford rhwng Llundain a Chaergybi (yr A5 heddiw). Nid yw’r cynllun mewnol, sef pedair ystafell, wedi newid ers y 1930au. Mae arfbais teulu Douglas yn dwyn i gof ddigwyddiadau yn y 14eg ganrif ac yma mae’n coffáu teulu Douglas-Pennant, perchnogion Chwarel y Penrhyn.

Ym 1845 cymerwyd y gwesty drosodd gan John Hughes, cyn-swyddog gyda Chyllid y Wlad ym Mangor, ac fe’i hysbysebodd fel lleoliad wrth ymyl y chwareli “coeth”, “Bwlch Mawreddog Nant Ffrancon” a chyfleoedd penigamp ar gyfer pysgota. Roedd gan y gwesty “ystafelloedd eang hardd, llofftydd golau, mawr” a “baddonau poeth, oer a chawodydd”. Gallai ymwelwyr fenthyg cychod neu gyflogi tywyswyr gyda merlod i deithio yn y mynyddoedd. Nododd John Hughes “ei bod yn hysbys bellach mai Carnedd Llywelyn yw’r mynydd uchaf yng Nghymru (gweler yr Arolwg Ordnans diwethaf)”!

Ym 1898, cafodd beiciwr – ni wyddom ei enw – ddamwain rhwng Llyn Ogwen a Bethesda. Fe’i cludwyd i’r Douglas Arms, lle y bu farw. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Eglwys Glanogwen ar ôl i bobl Bethesda godi arian i dalu am gynhebrwng gweddus.

Arhosodd dyn o’r enw Mr O’Neil a’i chwaer yma ym 1903 ar ôl i’w car modur dorri i lawr. Yr unig ffordd i’w drwsio oedd anfon telegram i nôl “arbenigwr” o Lundain!

Roedd y gwesty yn un o’r prif leoliadau yn yr ardal ar gyfer cyfarfodydd, brecwast priodas a digwyddiadau eraill, gan gynnwys cwestau. Yn Chwefror 1915, darparodd Alfred Davies, Gwesty’r Douglas Arms, de gyda chig yn y Neuadd Gyhoeddus ar gyfer y Corfflu Cymreig, a oedd yn mynd trwy Fethesda mewn ymgyrch recriwtio ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymhlith y grŵp roedd Gwilym Lloyd George (mab David Lloyd George) a fyddai yn ddiweddarach yn Ysgrifennydd Cartref.

Mae’r gwesty wedi aros ym mherchnogaeth teulu Davies ers 1913. Mae pobl leol yn dal i gofio Geoffrey, mab Alfred, am iddo wrthwynebu degoli arian Prydain ym 1971. Er ei fod yn gorfod derbyn arian degol, am flynyddoedd byddai’n dal i ddweud wrth y cwsmeriaid y prisiau i’w talu mewn punnoedd, sylltau a cheiniogau!

Diolch i Dr Hazel Pierce o The History House, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad

Cod post : LL57 3AY    Map

Gwefan y Douglas Arms – gan gynnwys hanes arfbais Douglas

Telfords Irish Road Tour label button_nav_5W-WEbutton_nav_5W-EW