Sgwâr y farchnad, Tregaron
Ar ddyddiau Mawrth tyrrai ffermwyr o bell ac agos i farchnad fisol Tregaron. Erbyn 1850 roedd gwerth £10,000 o ddefaid yn cael eu gwerthu yn y farchnad hon yn flynyddol. (dyna dros £1.1m yn arian heddiw). Deuai gwragedd yma i werthu dillad a wnaed gartref. Erbyn 1850 roedd gwerth £50 o sanau yn cael eu gwerthu bob wythnos.
Cynigiwyd cinio am ddim i bob porthmon ar ddiwrnod marchnad yn Ebrill 1872. Rhoddwyd, yn ogystal, wobrau am y creaduriaid mewn amryw o adrannau, am y pâr gorau o hosanau o unrhyw liw ac i’r porthmon a brynai fwyaf o anifeiliaid.
Yn Ebrill 1866 aethpwyd â phedwar ffermwr i’r llys am geisio gwerthu moch ym marchnad Tregaron a hynny pan oedd Deddf Pla’r Gwartheg yn dal mewn grym. Roedd Rinderpest, neu bla’r gwartheg wedi dechrau lledu ym Mhrydain erbyn 1865.
Roedd ffair gyflogi mis Tachwedd yn achlysur cymdeithasol o bwys ac yn gyfle, yn ogystal, i ffermwyr a theuluoedd ddewis gweision a gweithwyr ifainc. Tyrrodd y ‘rheini a chwiliai am bleser’ i ffair gyflogi 1905. Roedd rhes o stondinau ar hyd yr heol o’r sgwar i’r bont. Roedd ceffylau pren ac orielau saethu yn rhan o’r difyrrwch. Roedd galw mawr am forynion y flwyddyn honno a chyflogau’n uchel gan nad oedd digon o ferched ar gael.
Credir bod gwesty’r Talbot sy’n wynebu’r sgwar yn perthyn i gyfnod c. 1800. Y rhan ar ochr dde’r fynedfa i’r gwesty oedd y stablau a’r cerbyty.
Daeth neuadd y farchnad a godwyd yn 1875 yn Neuadd Goffa ar gyfer y pentref yn 1922 ac yno gosodwyd placiau i goffáu’r rheini a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dadorchuddiwyd y cerflun o Henry Richard AS (1812-1888) yn 1893. Mae’r llun uchaf yn gofnod o’r achlysur hwnnw a’r gwesty a’r cerflun yn y llun islaw. Mae’r ddau lun gan John Thomas ac fe’u dangosir trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ganwyd Henry yn Tŷ Gwyn, Tregaron. Bu’n weinidog gyda’r Anghydffurfwyr cyn dod yn ffigwr amlwg yn y Mudiad Heddwch Rhyngwladol. Bu’n aelod seneddol Merthyr Tudful ac yn ymwneud â choleg prifysgol Aberystwyth .
Cerflun o Thomas Jones sef Twm Siôn Cati, arwr y werin, yw’r cerflun pren ar y sgwar. Yn ôl y chwedl bu’n byw bywyd dwbl, fel ffermwr cefnog yn ardal Tregaron ac fel lleidr pen-ffordd a guddiai ei ysbail mewn ogof.
Am yr enw lle:
Caron oedd enw gwreiddiol y plwyf a’r pentref ac mae’n digwydd yn 1281. Mae’n debygol mai mabwysiadu enw’r afon Caron a wnaed. Mae’r afon yn codi ym Mlaencaron ac yn llifo heibio i Dregaron i afon Teifi. Mae’r eglwys wedi’i chysegru i Caron, o bosibl Caron (Carawn) o Ddeheubarth, ond hwyrach bod yn enw personol yn y pen draw yn tarddu o enw’r afon.
Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad a’r nodiadau am yr enw lle
Cod post: SY25 6JL Gweld Map y Lleoliad
Gwefan Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth – mwy am leoedd i ymweld â hwy