Er cof am Barney Dylan Warburton
Roedd Barney yn byw yn Llys Brithyll, nid nepell o’r Gofgolofn yn Llanbedr. Roedd yn chwaraewr rygbi, yn cefnogi Cymru, ac yn aelod o dîm Clwb Rygbi Harlech. Roedd hefyd yn bysgotwr brwd.
Ymunodd â’r fyddin yn y Royal Engineers wedi gadael yr ysgol. Collodd rhai o’I fodiau trwy frath rhew wrth ymarfer yn yr Alban, ond gwrthododd waith y tu ôl I ddesg wrth fynnu cadw’n filwr llawn. Bu’n bocsio tra oedd yn y fyddin ac enillodd fedalau dros ei garfan.
Arbenigodd mewn difa dyfeisiadau ffrwydrol, a chyrhaeddodd y rheng o gorporal pan ei leolwyd ym Mosnia i wasanaethu â lluoedd y Cenhedloedd Unedig. Yr oedd Bosnia yn rhan o Iwgoslafia cyn I frwydro gychwyn ym 1993. Terfynwyd y gwrthdaro yn Chwefror 1994 gyda’r cadoediad a’r sefydliad o dalaith Bosnia a Herzegovina.
Ymwelodd John Major, y Prif Weinidog â’r milwyr ym Mosnia ar 18 Mawrth 1994, ac ysgwyddodd law â Barney. Trannoeth, lladdwyd Barney gan un o’r nifer o fomiau nad oedd wedi ffrwydro wedi’r cadoediad. Yr oedd Barney yn diffiwsio ordnans ger y stadiwm pêl droed yn nhref Stari Vitez pan ffrwydrodd bom wedi’I gyfaddasu. Yr oedd yn 27 oed. Dychwelwyd ei gorff I Lanbedr i’w gladdu ym mynwent yr Eglwys. Crëwyd plac iddo ger cofgolofn rhyfel y pentref.
Naddwyd plac arall er cof iddo gan Ruzid Stipo, saer maen Croataidd, ym 1994, a’i leoli ger y twll a adawyd o’r ffrwydrad. Collodd Ruzid Stipo ei fab ei hun ychydig o fisoedd yn gynharach, mewn ymladd ger Stari Vitez, ac addawodd i edrych ar ôl y gofeb i Barney trwy weddill ei oes. Safodd offeiriad Catholig ac imam Moslemaidd ochr yn ochr yn y seremoni coffáu, a disgrifiwyd Barney fel “dyn ifanc a ddaeth o dramor i helpu pobl na chwrddodd o’r blaen” gan Uwchgapten Alan Macklin o’r Royal Engineers.