Cofgolofn rhyfel Llanbedr
Cofgolofn rhyfel Llanbedr
Codwyd y gofgolofn hon yn 1922 i goffáu dynion lleol a gollodd eu bywydau ar wasanaeth milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn hwyrach, ychwanegwyd enwau’r dynion bu farw yn yr Ail Ryfel Byd. Cliciwch y ddolen isod i ddarllen eu manylion:
Mae cofeb syml gyfagos yn gyflwynedig i Gorporal Barney Warburton o’r Royal Engineers, bu farw ym Mosnia ar 19 Mawrth 1994, yn 27 blwydd oed. Yr oedd yn byw yn Llys Brithyll, Llanbedr, ac fe’i claddwyd ym mynwent yr eglwys. Dyma ein tudalen er cof amdano.
Hefyd mae carreg sy’n coffáu’r dynion a menywod a hyfforddwyd yn safle’r RAF yn Llanbedr rhwng 1941 a 1945. Symudwyd y garreg o Faes Artro yn 2011.
Lluniwyd y brif gofgolofn ar ddylanwad ffurfiau croes Celtaidd. Ymddangosa’r geiriau hyn ar yr wyneb: “Er cof bechgyn o’r ardal hon a roddasant eu bywyd yn y Rhyfel Mawr 1914-1918. Mur oeddynt hwy i ni, nos a dydd.”