Safle arestio carcharorion rhyfel Almaenig, ger gorsaf Pensarn

button-theme-pow

Cafodd dau swyddog o fyddin yr Almaen eu harestio ger gorsaf Pensarn ym mis Ebrill 1915 ar ôl iddynt ddianc o wersyll carcharorion rhyfel yn Sir Ddinbych.

Diflannodd Ober Leutnant Hans von Andler a Leutnant Hans Friedrich Rudolf von Sandersleben o wersyll Dyffryn Aled, ger Llansannan, ar ôl galwad y gofrestr gyda’r nos. Cynnigiodd y llywodraeth wobr am wybodaeth a fyddai’n arwain at eu harestiad. Bu miloedd o filwyr, plismyn a phobl leol yn sgwrio cefn gwlad am yr Almaenwyr.

Gan deithio ar droed yn unig, llwyddodd y ddau i deithio’n bell dros fynydd-dir a rhostir mewn tywydd gwael i ddianc rhag eu darpar gaethwyr. Am wythnos, buont yn cysgu dros nos mewn caeau. Wedi'u gwisgo mewn siwtiau brethyn cartref a chapiau, roedden nhw'n cario ysgrepanau a oedd yn cynnwys siocled, bisgedi, sigarets, ffrwythau, pin llenwi a llyfr nodiadau. Yn y llyfr roedd map wedi'i dynnu â llaw o Gymru a siart yn dangos y llwybrau a'r pellteroedd i Iwerddon a Sbaen.

Cawsant eu dal oherwydd gwelodd warden afon lleol, John Jones, ddau ddieithryn yn dod i lawr Cwm Nantcol. Siaradodd â nhw ond ni chafodd unrhyw ymateb. Gan ddod yn amheus, fe gerddodd ar hyd llwybr byr i Lanbedr a ffonio'r heddlu yn Harlech. Aeth Cwnstabl Davies tua’r de ar feic a dod o hyd i’r carcharorion ar y ffordd "ger gorsaf Pensarn”, yn ôl y wasg.

Pan gawsant eu herio, datganodd y ffoedigion eu bod yn Ffrancwyr ar wyliau ond cyfaddefodd yn fuan mai nhw oedd y swyddogion Almaenig coll. Aed â nhw i orsaf heddlu Blaenau Ffestiniog, lle’r oedd pobl leol yn eu cyfarch â swn bŵs – ac ymatebodd yr Almaenwyr trwy chwerthin, yn ôl y sôn. Yna aethant i Gastell Caer, lle y dedfrydodd llys milwrol y ddau i 28 diwrnod o garchar heb lafur caled.

Ym 1915 roedd gorsaf Pensarn yn eiddo i gwmni Rheilffyrdd y Cambrian. Heddiw mae’n arhosfan ar reilffordd hardd Arfordir y Cambrian, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa 'Home Front', Llandudno

Cod post: LL45 2HP    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button