Eglwys y Santes Fair, Llanfair

Mae rhannau hynaf yr eglwys hon, gan gynnwys ffenestr y dwyrain, yn perthyn i’r bymthegfed ganrif. Ehangwyd yr adeilad yn ystod y ddwy ganrif ddilynol a’i hadnewyddu yn oes Fictoria.

Mae Gerallt Gymro yn nodi bod eglwys gynharach yma, a honno yn ogystal wedi’i chysegru i Mair. Treuliwyd noson ganddo ef a Baldwin, Archesgob Caergaint, yma yn 1188 ar eu taith o amgylch Cymru yn pregethu ac yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad.

Wrth iddyn nhw gychwyn ar eu taith fore trannoeth, daeth Maredydd ap Cynan a rhai o’i ŵyr i’w cyfarfod. Mab Cynan, llywodraethwr Meirionnydd oedd ef. Ymunodd nifer o wŷr â’r groesgad yn y fan a’r lle. Pan oedd un o’r gwŷr ar fin cael arwydd y groes wedi’i wnïo ar ei glogyn, sylwodd Maredydd mor dreuliedig oedd y dilledyn hwnnw ac yn eu ddagrau estynnodd ei glogyn ei hunan i’r gŵr. 

Mae llawer o gofebau yn yr eglwys gan gynnwys llechen ac arni’r dyddiad 1520 yn coffáu’r Oweniaid, perchnogion ystad Crafnant gerllaw.

Mae llechen yn llawr y festri yn coffáu’r llenor Ellis Wynne, a fu’n rheithor yma o 1711 tan ei farw yn 1734. Cysegrwyd un o’r ffenestri lliw o oes Fictoria yn yr eglwys iddo, er parch iddo fel llenor. Mae’n adnabyddus am ei waith Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Mae’n awdur nifer o emynau yn ogystal â charolau plygain. Gwasanaeth oedd y plygain a gynhelid cyn i’r ceiliog ganu ar fore’r Nadolig.

Saif cartref Ellis, Y Lasynys Fawr, ar graig i’r gogledd o Harlech. Mae ar agor i ymwelwyr o bryd i’w gilydd.

Y tu fewn i eglwys y Santes Fair mae crogloft a gerfiwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae’r trawstiau yn y to uwchben y gangell wedi goroesi er y bymthegfed ganrif. 

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: LL46 2SA    Map

Gwefan y plwyf

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button