Eglwys Cadfan Sant, Tywyn

Eglwys Cadfan Sant, Tywyn

Mae’r eglwys hon ar safle ‘clas’ sef sefydliad Cristnogol cynnar. Roedd gan bob ‘clas’ ei abad ei hun, traddodiad a fu mewn grym tan y ddeuddegfed ganrif.

Drawing of Tywyn church in 1869Credir i Cadfan Sant ddod i Gymru o Lydaw yn y chweched ganrif a sefydlu’r fynachlog ar Ynys Enlli yn ogystal â’r clas yn Nhywyn.

Mae llawer o’r eglwys bresennol yn perthyn i’r ddeuddegfed ganrif, er i’r tŵr gael ei godi wedi i’w ragflaenydd ddisgyn yn 1692! Helaethwyd yr eglwys yng nghyfnod y Tuduriaid a’i adnewyddu yn y 1880au. Dangosir llun yr eglwys yn 1869 yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Treuliodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint noson yn Nhywyn yn 1188, a hynny yn yr eglwys mae’n debyg. Roedden nhw ar daith trwy Gymru yn listio ar gyfer y trydydd croesgad. Yn gynnar drannoeth cyfarfu llywodraethwr Meirionnydd sef Gruffydd ap Cynan (wŷr Owain Gwynedd, Brenin Gwynedd) â nhw. Ymddiheurodd nad oedd wedi cwrdd â nhw ynghynt.

Yn yr eglwys ceir pileri cerrig ac arnynt arysgrifau. Credir eu bod yn perthyn i’r nawfed ganrif. Mae un ohonyn nhw o arwyddocâd arbennig gan ei fod yn cynnwys arysgrifau Cymraeg a Lladin – o bosibl yr arysgrif Gymraeg gynharaf sydd wedi ei chadw. Safai yn y fynwent ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg cyn ei symud i eiddo preifat. Cafodd ei dychwelyd i’r fan hon yn 1914. Cyfeirir ati weithiau fel “Carreg Cadfan” ond hyd y gwyddys nid oes cysylltiad â Cadfan Sant.

Câi’r garreg arall ei defnyddio fel cloc haul yn y lle cyntaf; cofnodai amserau gweddi. Cafodd ei hailddefnyddio fel carreg filltir ac mae’r cofnod ei bod filltir (c. 1.5km) o Dywyn i’w gweld arni o hyd.

Yn yr eglwys mae dwy ddelw sy’n perthyn i’r oesoedd canol, y naill yn ddelw o farchog a’r llall yn ddelw o offeiriad. Mae traed y naill a’r llall yn pwyso ar anifeiliaid! Ni wyddys yn hollol pwy ydyn nhw, ond credir mai’r marchog yw Gruffydd ab Adda, o Ddolgoch ac Ynysmaengwyn. Mae perchnogion diweddarach ystad Ynysmaengwyn yn cael eu coffáu yn yr eglwys ar gofebau sy’n perthyn i’r ddeunawfed ganrif

Mae soddgrwth hynafol i’w weld yn yr eglwys yn ogystal. Câi ei ddefnyddio mewn gwasanaethau cyn i’r eglwys gael ei horgan gyntaf yn 1897.

Ym mhorth yr eglwys mae cofebáu i drigolion lleol a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Fe’u coffeir yn ogystal ar brif gofeb ryfel y dref ar Fryn-y-Paderau.

Credid bod dŵr o ffynnon a gysegrwyd i Cadfan Sant yng nghwr ogledd-orllewinol y fynwent wreiddiol yn gwella anhwylderau’r croen a gwynegon.

Am yr enw lle:
Mae’r enw Tywyn yn dynodi ‘glan môr’ ac yn cyfeirio at y mordraeth rhwng aber afon Dysynni ac aber afon Dyfi.

Gyda diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: LL36 9BS    Map

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button