Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn-fawr, Aberystwyth
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn-fawr, Aberystwyth
Dyma un o safleoedd pwysicaf Cristnogaeth gynnar yng Nghymru. Sefydlodd Padarn fynachlog yma yn y chweched ganrif. Difrodwyd y safle gan y Llychlynwyr. Mae’r adeilad a welwn heddiw, gan gynnwys y tŵr mawreddog, yn perthyn i’r 13 ganrif - gydag ychwanegiadau a newidiadau diweddarach. Pan oedd angen adnewyddu’r eglwys yn y 1870au, ymbiliodd William Morris, y cynllunydd Celf a Chrefft, ar y ficer i bwyllo rhag gwneud yr holl newidiadau a arfaethid.
Daeth Padarn i Gymru o Lydaw a denu mwy na chant o fynachod i’w fynachlog yma. Pregethodd edifeirwch i benaethiaid paganaidd gan gynnwys Maelgwn Gwynedd; bu hwnnw farw o’r pla yn y pen draw, er iddo ei gloi ei hun mewn eglwys i geisio’i amddiffyn ei hun rhag yr afiechyd heintus. Dywedir i Padarn ar un achlysur gael ei gyhuddo ar gam gan Maelgwn. Er mwyn profi ei fod yn ddieuog rhoddodd ei law mewn dŵr berwedig a’i dynnu oddi yno yn hollol ddianaf. Mae’n bosibl mai Padarn arall a goffeir yn Eglwys Padarn Sant yn Llanberis
Plwyf Llanbadarn Fawr oedd y plwyf mwyaf yng Nghymru ar un adeg. Yn yr 11 ganrif roedd yr eglwys yn ganolfan dysg a llên; yma y casglodd Sulien a Rhygyfarch ddefnyddiau helaeth am yr eglwys fore yng Nghymru.
Yn ôl Gerallt Gymro, roedd yr eglwys hon yn gadeirlan ar un adeg. Treuliodd ef ac Archesgob Caergaint noson yma yn 1188 tra oedd y ddau yn teithio trwy Gymru yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Listiodd llawer o ddynion yn ystod y bore. Nododd Gerallt yn ei ddyddiadur fod yr eglwys hon, fel llawer o eglwysi eraill yng Nghymru ac Iwerddon dan ofal abad honedig, heb ei ordeinio. Roedd yr abadau hyn wedi cipio grym a thir. Cofnododd hefyd fod ymwelydd o Lydaw, ynghynt yn y ganrif, wedi ei syfrdanu o weld ‘abad’ Llanbadarn yn cyrraedd i arwain yr offeren yn gwisgo dillad cyffredin (yn hytrach nag urddwisg eglwysig) ac yn cario gwaywffon.
Mae’n debygol mai yn y plwyf y ganwyd y bardd enwog Dafydd ap Gwilym (m. 1370). Yn ei gerdd Merched Llanbadarn mae’n disgrifio sut y bu’n llygadu un o’r merched yn y gynulleidfa; mae’n melltithio merched y plwyf am iddynt ei wrthod!
Dywedir i Harri Tudur a’i fyddin fechan deithio drwy Llanbadarn yn Awst 1485 ar eu taith o Sir Benfro i Bosworth. Cafodd ei goroni’n Harri VII yn dilyn ei fuddugoliaeth yno.
Bu William Morgan yn ficer yma yn yr 16 ganrif. Yn ddiweddarach fe oedd yn gyfrifol am y cyfieithiad cyntaf o’r Beibl i’r Gymraeg. Mae cofeb i’r orchest hon y tu allan i eglwys gadeiriol Llanelwy. Mae copi o Feibl gwreiddiol 1588 yn Eglwys Llanbadarn.
Y tu fewn i’r eglwys y mae dwy groes hynafol o garreg. Cawsant eu symud yma yn 1916. Mae’n debygol eu bod wedi cael eu defnyddio gan Gristnogion er y 10 ganrif; efallai mai croesau paganaidd oeddent yn wreiddiol. Credir i’r bwa uwchben porth y de ddod o Abaty Ystrad Fflur.
Ymysg y cofebau lawer yn yr eglwys mae un i Lewis Pugh Evans (1881–1962) a anwyd yn Abermad ac a anrhydeddwyd â Chroes Victoria am ei ddewrder a’i arweinyddiaeth ym mrwydr Passchendaele yn Hydref 1917.
Mae’r dyddiad 1749 ar gloch hynaf yr eglwys. Cynyddwyd nifer y clychau o chwech i wyth ym 1885 ac yna i ddeg yn 2001.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SY23 3QZ Map