Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi
Yn ôl y chwedl, mae’r twmpath y mae’r eglwys hon yn sefyll arno yn ganlyniad i wyrth a berfformiwyd gan Dewi Sant, nawddsant Cymru.
Efallai bod crug wedi bodoli yma yn y cyfnod cynhanesyddol. Mae'n debygol bod Cristnogion cynnar wedi defnyddio'r safle, o bosibl ar gyfer cymuned fynachaidd fach. Credir bod chwe charreg gyda cherfiadau Cristnogol y gallwch eu gweld y tu mewn i'r eglwys yn dyddio o'r 6ed i'r 9fed ganrif. Un ohonynt, o'r 7fed ganrif, yw'r cofnod ysgrifenedig cynharaf o Dewi Sant.
Yn ôl traddodiad, bu Dewi yn pregethu yma c.550 yn erbyn Pelagiaeth, a oedd yn dadlau bod pobl yn y bôn yn dda ac yn pechu o'u hewyllys rhydd eu hunain. Cafodd hyn ei drin fel heresi a'i atal i raddau helaeth yn y 5ed ganrif.
Ysgrifennodd Gerallt Gymro, ar ôl ei ymweliad yma ym 1188 ag Archesgob Caergaint, fod yr heresi wedi ailymddangos yn yr ardal hon fel pla dibaid pan fynychodd Dewi synod yn y fan hon. Yn y synod fe ymgynnullodd arweinwyr Cristnogol i wrthbrofi Pelagiaeth o flaen torf o bobl. Wrth i Dewi bregethu, cododd y ddaear o dan ei draed (gan alluogi'r dorf gyfan i'w weld a'i glywed). Ysgogodd hyn y synod i'w ddewis fel yr Archesgob newydd, er bod Dewi yn amharod. Ysgrifennodd Gerallt hefyd mai canlyniad arall oedd symud prif sedd Cristnogaeth Cymru o Gaerllion i Dyddewi.
Disodlwyd yr eglwys a welodd Gerallt â strwythur carreg yn ddiweddarach yn y cyfnod canoloesol. Mae “croesfan” ganolog yr eglwys yn dyddio o'r 13eg neu'r 14eg ganrif, a'r twr uwch ei phen o'r 15fed.
Yn y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif cwympodd rhannau o'r hen eglwys. Ailadeiladwyd yn helaeth ar wahanol adegau yn y 19eg ganrif.
Roedd Syr David Davies, a fedyddiwyd yn yr eglwys ym 1792, yn feddyg i’r Brenin William IV a’r Frenhines Adelaide. Yn ôl y sôn, roedd seddi’r eglwys yn rhodd gan Adelaide er anrhydedd Syr David.
Cod post: SY25 6RN Map