Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur

Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur

Mae eglwys y Santes Fair yn dyddio o 1815. Dyma’r eglwys ddiweddaraf  i’w chodi ar y safle gysegredig  efhon. Gerllaw mae olion mynachlog Sistersaidd Ystrad Fflur sy’n perthyn i’r ddeuddegfed ganrif.

Engraving of Strata Florida abbey ruinsAwgrymir bod  hanes hŷn o lawer  i’r safle gan ffynonellau gweledol megis engrafiad yn 1714 gan Buck, cofnodion esgobol o’r ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif ynghyd â thystiolaeth archaeolegol sylweddol. Mae’n bosibl mai dyma safle capel yr abaty a bod gwreiddiau Celtaidd  hŷn na hynny hyd yn oed gan y lle.

Mae’r eglwys bresennol yn cynnwys cerrig a gymerwyd o’r abaty. Y tu mewn i’r eglwys mae pulpud ac arno’r dyddiad 1742, pulpud crwn a ffenestri lliw trawiadol sy’n perthyn i’r ugeinfed ganrif.

Mae hanes cymdeithasol y plwyf gwledig hwn yn annatod gysylltiedig â’r fynwent. Mae tri gŵr lleol wedi’u claddu mewn beddau rhyfel yno – gwelir eu manylion isod. Mae un garreg fedd yn cofnodi claddu coes chwith a rhan o glun Henry Hughes! Nid yw’r rheswm dros dorri’r goes yn hysbys ond roedd ef yn ddigon heini i gychwyn bywyd newydd yn yr Unol Daleithiau.

Honnir i’r bardd Dafydd ap Gwilym, a fu farw c. 1350 gael ei gladdu dan ywen yn y fynwent. Mae’n bosibl iddo dderbyn peth o’i addysg yn yr abaty.

Arhosodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint am gyfnod yn Ystrad Fflur  yn 1188  yn ystod eu taith bregethu a recriwtio yng Nghymru ar gyfer y drydedd groesgad. Daethant ac ymadael yng nghwmni Seisyll, abad Ystrad Fflur, a John, abad Abaty Hendygwyn (mam-abaty Ystrad Fflur).

Wedi iddynt ymadael ag Ystrad Fflur daeth yr Arglwydd Rhys (llywodraethwr rhan helaeth o Dde Cymru) a thri o’i feibion i’w cwrdd. Roedd y tri mab yn cilwthio i listio ar gyfer y groesgad. Mae’n ymddangos mai smalio roedden nhw am nad aeth yr un ohonyn nhw i’r Wlad Sanctaidd i ymladd. Sylwodd Gerallt fod un mab, Cynwrig, wedi’i wisgo yn y dull Cymreig traddodiadol sef crys a chlogyn tenau. Doedd Cynwrig ddim yn malio bod drain yn crafu ei goesau a’i draed noeth.

Cafodd yr engrafiad o ran o adfeilion yr abaty ei gynnwys yn argraffiad 1804 o deithlen Gerallt gan Richard Colt Hoare. Daw o ddogfen wreiddiol yn Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac fe’i atgynhyrchwyd yma gyda chaniatâd Deon a Chabidwl Cadeirlan Tyddewi.

Diolch i Carys Aldous-Hughes, o Ymddiriedolaeth Strata Florida, ac i Steve John, hefyd i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SY25 6ES    Map

Gwefan yr eglwys

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button


Beddi rhyfel yn y fynwent

Edwards, Philip, Gunner 168352. Died 31/01/1918. Royal Field Artillery. Son of Rachel Edwards, of 6 Terrace Road, of Elder Court, Pontrhydfendigaid.

Jones, David Rowland, Private 55559. Died 23/09/1919. Royal Welsh Fusiliers. Son of John and Annie Jones, of Dolfawr, Ystrad Meurig. Discharged from the army after being shot in the arm and later died from his wounds.

Thomas, Robert Morgan, Sapper 2008306. Died 28/12/1940 aged 21. Royal Engineers. Son of Morgan and Bertha Thomas, of Pontrhydfendigaid.