Gladstone memorial Cymraeg
Cofeb Gladstone, Ffordd Paradwys
Dadorchuddiwyd y gofeb i'r cyn-brif weinidog William Ewart Gladstone ym 1899, flwyddyn ar ôl ei farwolaeth o ganser a’i gladdu yn Abaty Westminster. Cafodd y penddelw gwreiddiol ei ddwyn yn y 1970au. Crewyd yr un newydd gan y cerflunydd lleol Peter London ym 1991.
Ganwyd WE Gladstone (1809-1898) yn Lerpwl a derbyniodd ei addysg yn Eton a Phrifysgol Rhydychen. Daeth yn AS Torïaidd ym 1832, ac ymunodd a chabinet Robert Peel ym 1843. Yn 1859 croesodd at y blaid Ryddfrydol, gan ddod yn arweinydd wyth mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd dri chyfnod fel prif weinidog, gan ddechrau ym 1868. Daeth yr olaf i ben gyda’i ymddiswyddiad ym 1894. Fel prif weinidog diwygiodd cyfiawnder, addysg a'r gwasanaeth sifil, a cheisiodd ddarparu rheolaeth cartref i Iwerddon.
Daeth i Benmaenmawr am ei wyliau am y tro cyntaf ym 1855. Dros y 14 mlynedd nesaf fe wnaeth 11 o ymweliadau gyda'i deulu, gan aros mewn tai amrywiol. Tra ym Mhenmaenmawr, byddai Gladstone yn ymdrochi yn y môr pob dydd, cerdded yn y bryniau tu ôl i'r dref, darllen a pharhau a'i astudiaethau ar Homer. Adeiladodd ei gefnder cyfoethog tŷ haf ar gyrion y dref, ond bu farw mewn amgylchiadau dirgel ar y traeth ym 1875.
Pan ddechreuodd Gladstone ymweld â Phenmaenmawr, prin oedd y datblygu yn ardal y dref uwch yr orsaf rheilffordd. Gwnaeth ei ymweliadau yr ardal yn hysbys a denu pobl o drefn cymdeithasol uchel i rannu hyfrydwch y lle ymdrochi newydd ar arfordir Gogledd Cymru. Bu’n ymweld yn llai aml wrth iddo heneiddio. Daeth ar ei ymweliad olaf yn 1896 ar ôl seibiant o 14 blynedd.
Gyda diolch i David Bathers a Dennis Roberts, o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr