Bryn Hedd Cymraeg
Bryn Hedd
Mae Bryn Hedd yn un o lawer o dai a adeiladwyd yn y steil Eidalaidd ar hyd arfodir y gogledd, i bobl broffesiynnol a phobl busnes o swydd Gaer a Manceinion. Plas Mariandir oedd enw’r tŷ yn wreiddiol, ac wedyn Bryn Hedd.
Arhosodd William Ewart Gladstone a`i wraig Catherine yma ar eu hymweliad cyntaf â Phenmaenmawr. Llogwyd y tŷ i deulu Gladstone am yr haf gan Dr Harrison , myddyg yn ysbyty Caer. Roedd Caer yn agos at gartref Gladstone yn Hawarden, Sir y Fflint. Cyrhaeddon nhw ar y tren ar dydd llun Medi 3 1855.
Ysgrifennodd Gladstone y noson honno: “Mae’r lle yma yn hyfryd. Darganfyddon ni ar ddiwedd ein taith lle meddal a thlws o dan y mynydd gweddol uchel, cylch hapus a iachus.”
Gyda diolch i David Bathers a Dennis Roberts, o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr
Côd post: LL34 6BB Map