St Seiriol's Church Cymraeg
Eglwys Sant Seiriol
Fe wnaeth William Ewart Gladstone, Prif Weinidog Prydain Fawr, araith wrth osod carreg sylfaenol yr eglwys ar 20 Awst 1867. Fe roddodd Gladstone y llestri cymun eiraidd a’r gloch tenor sy’n hongian yn y tŵr.
Y pensaer oedd Syr Alfred Waterhouse a gynlluniodd lawer o adeiladau cyhoeddus pwysig, yn cynnwys Neuadd y Dref, Manceinion. Adeiladwyd y tŵr ym 1885. Yn anarferol, sefydlwyd y tŵr ar wahan i’r eglwys, gyda chyntedd rhwng y ddau. Adeiladwyd yr eglwys o wenithfaen (granite) lleol gydag addurniadau o dywodfaen o swydd Gaer.
Enwyd yr eglwys ar ôl Seiriol, a oedd yn un o ddisgynyddion y tywysog Celtaidd mawr Gunedda Wledig. Roedd Seiriol yn byw yn y 6ed ganrif. Dywedir ei fod wedi adeiladu llawer o “gapeli” bach - celloedd lle y cai tawelwch i fyfyrio. Fe adeiladwyd un ar Ynys Seiriol, neu Priestholme. Roedd ganddo hefyd gelloedd ar benrhyn Penmaenbach ac yng ngwm Graiglwyd.
Stori difyr amdano oedd ei fod yn cyfarfod â Cybi (nawdd sant Caergybi) yn aml, wrth groesi’r sarn (causeway) a adeiladodd rhwng Penmaenmawr a Phenmon, ar Ynys Môn. Byddai Seiriol yn cerdded i’r dwyrain yn foreuol ac yn mynd adref gyda’r nôs, a Cybi yn teithio’r ffordd arall a’i wyneb i’r haul y ddwy ffordd. Felly eu llys-enwau oedd “Seiriol Wyn” a “Cybi Felyn”.
Gyda diolch i David Bathers a Dennis Roberts, o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr
Côd post: LL34 6YD
![]() |
![]() ![]() |