Cyn-ffatri doliau, Penmaenmawr
Cyn-ffatri doliau, Penholm, Ffordd Bangor, Penmaenmawr
Arhosodd Lady Lucy Cavendish yn y tŷ a elwir yn awr yn Penholm am dair wythnos ym 1882 tra’m galaru am ei gwr, Arglwydd Frederick Cavendish, a oedd wedi cael eu llofruddio yn Nulyn. Roedd y Brif Weinidog, William Ewart Gladstone, newydd ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iwerddon newydd, ond yn fuan ar ôl cyrraedd trywanwyd Arglwydd Cavendish i farwolaeth gan grŵp o genedlaetholwyr Gwyddelig tra'n roedd yn cerdded yn hamddenol gyda gwas sifil yn Phoenix Park.
Arhosodd Mr a Mrs Gladstone yn Orme View, fel yr adnabyddid Penholm yr adeg yna, ym Medi 1882 fel gwesteion Arglwyddes Cavendish, a oedd yn nith iddynt.
O 1947, roedd y tŷ mawr yn gartref i Ffatri Doliau Rogark, a sefydlwyd gan George a Gladys Rogers efo cydweithiwr, John Clark, yn Lerpwl yn delio efo’r gwaith o ddosbarthu’r doliau ledled y byd. Cyfuniad o’r ddau gyfenw oedd enw'r cwmni. Roedd Gladys yn perthyn i’r teulu Darbishire, a oedd wedi gwneud ei ffortiwn yn y chwareli lleol. Erbyn canol y 1950au roedd y ffatri yn Penholm yn cyflogi 20 o bobl tra bod 100 o wragedd lleol hefyd yn gweithio ar y doliau yn eu cartrefi. Roedd 50 arall ar restr aros, yn gobeithio cael gwaith gan y cwmni. Roedd Rogark hefyd yn gwneud doliau bach iawn, masgotiaid ar gyfer ffenestri ceir ac amseryddion ŵy addurnol.
Mae'r tŷ yn awr yn annedd breifat.
Gyda diolch i Dennis Roberts a David Bathers o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr a Barbara Lawson-Reay
Côd post: LL34 6EH Map