Pant yr Afon shops Cymraeg
Siopau Pant yr Afon
Rhoddwyd yr enw yma ar yr ardal siopa canolig oherwydd bod llawer o nentydd yn rhedeg o dan y stryd a’r siopau i lawr at y môr.
Datblygodd yr ardal yn 1870 gyda rhai o’r siopau yn cael eu hychwanegu at flaenau’r tai gwreiddiol er mwyn cymryd mantais o’r ymwelwyr oedd yn dod ar y tren neu mewn cerbydau ffordd. Roedd siopau Cambrian Buildings o dan arcêd Fictorianaidd gyda tho gwydr.
Un o’r datblygwyr cyntaf oedd Thomas Patrick o Bedford. Fe ddaeth yn ffrindiau gyda Gladstone, a phan ail-ddatblygwyd yr adeilad fe ychwanegodd neuadd fach a enwyd Gladstone Hall ar ôl yr ymwelydd pwysig.
Gyda chymorth y Townscape Heritage Fund, fe ail-adeiladwyd yr arcêd Fictorianaidd ac fe orffenwyd y gwaith yn 2009.
Cynhelir Ffair Nwyddau o dan yr arcêd ar yr ail ddydd Sadwrn bob mis trwy’r flwyddyn. Mae hefyd yn le hyfryd i gael paned a sgwrs heb fod ar y stryd!
Gyda diolch i David Bathers a Dennis Roberts, o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr
Côd post: LL34 6AE