Hen Westy’r Angel, Y Struet

PWMP logoHen Westy’r Angel, Y Struet

brecon_angel_hotelArferai’r adeilad hwn fod yn gartref i Westy’r Angel. Bellach, mae’n gartref i gangen Aberhonddu o Gymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol. Arferai mynedfa’r gwesty, â phortico bach o’i hamgylch, fod yng nghanol tu blaen yr adeilad a oedd yn wynebu’r Struet (lle gwelir wal wag rhwng dwy ffenestr erbyn hyn). Gwelir y gwesty ar y chwith yn yr hen lun, a ddangosir yma trwy garedigrwydd Archifau Powys.

Yn 1919 roedd Eileen Talmage (llun isod), yr oedd ei rhieni’n berchen ar Westy’r Angel erbyn hynny, yn un o ddwy aelod o Fyddin Dir y Merched a ddewiswyd i gynrychioli Brycheiniog mewn rali yn Llundain, a fynychwyd gan y Dywysoges Mary (merch y gŵr a fyddai’n dod yn Frenin Siôr V). Roedd Miss Talmage wedi ymuno â Byddin Dir y Merched ym mis Mai 1917, a bu’n gweithio ar ystâd Ffrwd-grech i’r de-orllewin o Aberhonddu.

brecon_eileen_talmageFfurfiwyd Byddin Dir y Merched yn 1917 i gyflogi menywod yn lle’r dynion a oedd yn gweithio ar ffermydd ac mewn coedwigoedd, a oedd wedi ymuno â’r lluoedd arfog. Chwaraeodd yr oddeutu 23,000 o aelodau’r Fyddin Dir ran bwysig yn y gwaith o ddiogelu cyflenwad bwyd Prydain, pan gafodd mewnforion bwyd eu lleihau gan weithgarwch llongau tanfor yr Almaenwyr. Bu Byddin Dir y Merched yn weithgar ym Mhowys. Mewn canolfan hyfforddi ar ystâd Glan-wysg ger Crucywel, bu hyd at 40 o fenywod ar y tro yn dysgu sgiliau megis godro gwartheg.

Y tu mewn i’r adeilad, ceir Rhestr o Wroniaid sy’n enwi’r dynion o’r Struet a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y rhestr ei chreu yn 2007 gan Colin Butcher, sef lluniwr arwyddion a oedd yn byw yn y Struet ar y pryd.

Cafodd cangen Aberhonddu o Gymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol ei sefydlu gan aelodau lleol o’r Llu Awyr Brenhinol a oedd yn dychwelyd o’r Ail Ryfel Byd. Arferai’r gangen gyfarfod mewn tafarnau, gan ddechrau yn nhafarn Ye Olde Cognac (yng nghanol y dref) ym mis Mai 1946. Oherwydd nad oedd unrhyw obaith sefydlu clwb trwyddedig i’r Lleng Brydeinig Frenhinol, penderfynodd aelodau’r gangen agor eu clwb eu hunain. Bu’r gangen yn rhentu llawr cyntaf hen westy’r Green Dragon o fis Mawrth 1952 ymlaen, ac roedd y clwb mor boblogaidd nes y medrodd y gangen brynu Gwesty’r Angel oddi wrth Courage Brewery yn 1971.

Gyda diolch i Dave Coombe ac Archifau Powys

Gwefan Archifau Powys

Cod post: LD3 7LT    Map

I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, croeswch Stryd y Farchnad a cherddwch am ychydig ar hyd y Struet. Mae’r codau QR nesaf wrth ymyl siop y cigydd ar y dde
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button