Cofebau rhyfel yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

PWMP logoCofebau rhyfel yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Mae Capel Havard yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn cynnwys llawer o gofebau i aelodau o’r lluoedd arfog. Cafodd ei adeiladu yn ystod y 14eg ganrif yn gapel preifat i’r teulu Havard o Bontwilym (sydd i’r gogledd o Aberhonddu). Mae arfbais y teulu i’w gweld o hyd ar lawr y capel.

Caiff aelod cymharol ddiweddar o’r teulu, William Thomas Havard (1889-1956), ei goffáu gan blac yn y capel. Roedd yn gaplan i Gyffinwyr De Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ddiweddarach bu’n Esgob Llanelwy ac yn Esgob Tyddewi.

Yn 1922 cafodd y capel ei gysegru i 24ain Gatrawd Cyffinwyr De Cymru, sydd â’i phencadlys yn Aberhonddu, mewn seremoni a fynychwyd gan dros 500 o bobl a oedd wedi colli perthnasau yn y rhyfel. Yn y capel, gallwch weld cofeb o lechen i’r 5,777 o ddynion a swyddogion Cyffinwyr De Cymru a fu farw yn y rhyfel.

Mae cofeb arall yn rhestru aelodau Cyffinwyr De Cymru y dyfarnwyd medalau Croes Fictoria neu Groes Siôr iddynt yn y Rhyfel Byd Cyntaf, sef anrhydeddau mwyaf Prydain i gydnabod dewrder. Mae’r aelodau dan sylw’n cynnwys y Preifat James Henry Fynn (a fu farw yn 1917 yn 23 oed), y Rhingyll Albert White (a fu farw yn 1917 yn 23 oed), y Rhingyll Albert Rees, yr Uwch-ringyll Cwmni JH Williams, yr Is-gyrnol David Burges, yr Is-gyrnol Dudley Graham Johnson a’r Capten Angus Buchanan (a gollodd ei olwg oherwydd ei anafiadau yn y rhyfel).

Mae plac a ddadorchuddiwyd yn 1919 yn coffáu pump o swyddogion heddlu Brycheiniog a fu farw yn y rhyfel. Mae eu manylion i’w gweld isod. Ceir Rhestr o Wroniaid hefyd ar gyfer y dynion o Blwyf Sant Ioan a fu’n gwasanaethu yn y rhyfel (eglwys y plwyf oedd yr eglwys gadeiriol bryd hynny).

Ceir sawl cofeb yn y capel i swyddogion Cyffinwyr De Cymru a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, sy’n cynnwys y Capten Willie Ross a gafodd ei anafu’n ddifrifol yn ystod y glanio yn Gallipoli (yn Nhwrci) yn 1915 a’i ladd mewn brwydr yng Ngwlad Belg yn 1917. Roedd wedi priodi Mary Hooton yn Aberhonddu yn 1907. Mae plac arall yn coffáu’r Is-gyrnol Franklin Macaulay Gillespie, a laddwyd gan fwled saethwr cudd yn Gallipoli yn 1915. Gadawodd ei wraig Agnes (a oedd yn hanu o deulu cyfoethog o’r Drenewydd, sef y teulu Pryce-Jones) a’u tri o blant.

Mae cofeb ar wahân wedi’i chysegru i’r archbeilot Richard Aveline Maybery, a anwyd ychydig lathenni o’r fan hon ac a fu farw mewn brwydr uwchben Coedwig Bourlon yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1917, ar ôl ennill y Groes a’r Bar Milwrol am ei ddewrder yn yr awyr. Cliciwch yma i fynd i’n tudalen sy’n ei goffáu.

Caiff aelodau 3ydd Bataliwn Cyffinwyr De Cymru eu coffáu gan ffenestr o wydr lliw a ddadorchuddiwyd yn 1924.

Edrychwch i fyny i weld baneri Cyffinwyr De Cymru y mae rhai ohonynt yn dyddio’n ôl i’r rhyfel rhwng Prydain a’r Zwlw yn 1879.

Ar y piler canol yng Nghapel Havard gallwch weld cofeb i’r 1,025 o ddynion a swyddogion Cyffinwyr De Cymru a Chatrawd Mynwy a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd. Cânt eu coffáu hefyd gan gorau’r capel a’r panelau pren.

Cod post: LD3 9DP    Map

 

Cofeb ryfel Heddlu Brycheiniog

Bu farw’r swyddogion heddlu canlynol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

  • Davies, William, Is-gorporal 37119. Bu farw ar 22/06/1916 yn 25 oed. Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Caiff ei goffáu ar Gofeb Loos. Mab David ac Elizabeth Ann Davies, Gilestone Cottage, Tal-y-bont ar Wysg.
  • Griffiths, Arthur Allan, Corporal 1319. Bu farw ar 05/03/1917. Y Gwarchodlu Cymreig. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Brydeinig Sailly-Saillisel. Bu’n gwnstabl yn Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt ac yna yn y Gelli. Gadawodd weddw a thri o blant bach a oedd yn byw yn Heol y Dŵr, Y Gelli.
  • Hatcher, Edward, Preifat 1321. Bu farw ar 10/09/1916. Y Gwarchodlu Cymreig. Cafodd ei gladdu ym Mynwent ac Estyniad Mynwent Llundain, Longueval. Bu’n gwnstabl yn Aberhonddu a Llanwrtyd. Cyn hynny, bu’n gweithio i’r gantores opera Adelina Patti yng Nghastell Craig-y-Nos. Roedd ei weddw, y priododd â hi ychydig cyn ei farwolaeth, yn byw yn Llys-wen.
  • Martin, Charles E, Gynnwr 57582. Bu farw o’i anafiadau ar 16/01/1917. Y Magnelwyr Garsiwn Brenhinol. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Gymunedol Hazebrouck. Roedd yn byw yn Oaklands, Llanfair-ym-Muallt.
  • Pitman, Thomas, Corporal 57583. Bu farw ar 09/05/1918 yn 23 oed. Y Magnelwyr Garsiwn Brenhinol. Mab Henry a Winifred Pitman, Dorset House, Cwmllynfell, Abertawe. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Brydeinig Cabaret-Rouge, Souchez. Bu’n gwnstabl yn Llanfair-ym-Muallt am flwyddyn.
I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, gadewch dir yr Eglwys Gadeiriol, ewch i lawr Tyle’r Priordy a throwch i’r dde wrth ymyl Y Struet. Mae’r codau QR nesaf ar Glwb Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol (RAFA) wrth ymyl y goleuadau traffig
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button