Hen westy’r Green Dragon, Aberhonddu

PWMP logoHen westy’r Green Dragon, Aberhonddu

Arferai’r adeilad hwn (sy’n gartref i siop farbwr Lexy’s) fod yn gartref i westy dirwest y Green Dragon, a oedd yn lle i gymdeithasu heb alcohol ar adeg pan oedd meddwdod yn peri pryder i’r cyhoedd. Yn aml, byddai’r capeli yn dewis gwesty’r Green Dragon i gynnal digwyddiadau ynddo. Byddai Cymdeithas Gymraeg Aberhonddu yn cynnal eisteddfodau yma ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Codwyd yr adeilad ar safle tafarn gynharach o’r enw’r Green Dragon a oedd wedi’i haddasu yn swyddfeydd ar gyfer y Brecon County Times. Roedd y wasg argraffu mewn ystafell gefn ddrafftiog. Roedd dwy siop yn y tu blaen yn gwerthu cerddoriaeth a melysion.

brecon_ivor_davies

Erbyn 1891 roedd Magdalen Moses yn rhedeg tafarn goffi yma. Pan oedd yn ei harddegau bu’n forwyn i reolwr Carchar Sirol Aberhonddu.

Priododd â David John Davies o Lywel yn 1894. Mynychodd eu mab Ivor G Davies yr ysgol yn Heol Lygoden a’r Ysgol Sirol, cyn mynd yn glerc gyda Banc Barclays yn y Gelli. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd â Chatrawd Wiltshire Dug Caeredin a chafodd ei ddyrchafu’n Is-lefftenant. Cafodd ei ladd yn Ffrainc ar 8 Awst 1918 gan fwled gwn peiriant wrth iddo ef a’i gymrodyr ganlyn byddin yr Almaen, a oedd yn encilio. Roedd yn 24 oed.

Yn ystod y rhyfel, bu Mrs Davies yn arlwyo ar gyfer digwyddiadau a gâi eu cynnal i ddiddanu milwyr a oedd wedi’u hanafu. Yn 1917 cafodd ei phobydd, Albert John Coates, 26 oed, ei esgusodi rhag gwneud gwasanaeth milwrol oherwydd bod ei waith yn cael ei ystyried yn waith a oedd o bwys cenedlaethol.

Cynhaliodd staff Swyddfa Bost Aberhonddu eu digwyddiad cymdeithasol a’u swper blynyddol yn y Green Dragon ym mis Ionawr 1918, sef y tro cyntaf i fenywod a oedd yn bostmyn cefn gwlad gael eu cynnwys. Roedd rhai o’r dynion a oedd yn bostmyn yn Aberhonddu wedi mynd i’r rhyfel.

Roedd Mrs Davies yn un o sawl masnachwr yn Aberhonddu a gafodd ddirwy ym mis Mawrth 1919 am werthu pysgod neu gig am fwy na’r pris uchaf cyfreithlon. Er bod y rhyfel wedi gorffen fisoedd ynghynt roedd mesurau rheoli prisiau’n dal mewn grym, ar ôl iddynt gael eu cyflwyno gan y llywodraeth ochr yn ochr â’r drefn ddogni. Gwerthodd Mrs Davies dun o eog i arolygwr dirgel am 3 swllt. Y pris uchaf cyfreithlon oedd 2 swllt a 3 cheiniog. Roedd wedi prynu stoc o eog yn ystod y cyfnod pan nad oedd mesurau rheoli prisiau’n berthnasol iddo.

Arferai’r llawr cyntaf fod yn gartref i gangen Aberhonddu o Gymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol rhwng 1952 ac 1971, pan symudodd y gangen i hen Westy’r Angel.

Gyda diolch i Steve Morris o Gymdeithas Hanes Lleol a Theulu Sir Brycheiniog

Cod post : LD3 7LA    Carte

I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, cerddwch ar hyd Heol Cantreselyf bron i’r pen pellaf. Mae’r codau QR nesaf y tu allan i Gapel y Plough, ar y chwith
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button