Capel y Plough, Aberhonddu
Capel y Plough, Heol Cantreselyf, Aberhonddu
Cafodd y capel cyntaf ar y safle hwn ei adeiladu yn 1699. Adeiladwyd capel newydd yn ei le yn 1841 a chafodd yr adeilad hwnnw ei ymestyn yn 1892. Cafodd y capel ei enwi ar ôl tafarn o’r enw The Plough a safai yma yn ystod yr 17eg ganrif. Bryd hynny, câi anghydffurfwyr eu hystyried yn ‘ymneilltuwyr’ ac yn aml caent eu herlid. Byddai’r bobl a oedd yn byw yn y dref yn teithio i fynychu cyrddau mewn ffermdai anghysbell. Cafodd capel cyntaf yr Annibynwyr Cymraeg yma ei adeiladu ar gyfer addolwyr a arferai gwrdd mewn lleoliadau gwasgaredig, cyn dechrau cwrdd yn nes ymlaen mewn tŷ yn Heol y Defaid, Aberhonddu.
Erbyn heddiw mae’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig a’r Annibynwyr Cymraeg yn cwrdd yma. Mae’r addoliad ar ddydd Sul yn dechrau am 11am. Mae’r capel fel rheol ar agor i ymwelwyr ar benwythnosau.
Bu’r llenor Roland Mathias yn addoli yma. Cafodd ei eni yn 1915 ar fferm ger Tal-y-bont ar Wysg. Roedd ei dad yn gaplan gyda’r fyddin yng Nghwlen (Cologne) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar ôl hynny. Symudodd Roland a’i fam i’r Almaen yn 1920. Fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Roland ei ddedfrydu i gyfnod yn y carchar gyda llafur caled. Bu’n addysgu mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr cyn symud i Aberhonddu yn 1969. Ysgrifennodd lawer o gerddi a straeon, a bu’n golygu’r cylchgrawn llenyddol The Anglo-Welsh Review. Bu farw yn 2007.
Collodd y capel gyn-aelod yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Arferai Thomas Mozart Jones addoli yma tra oedd yn gweithio fel derbynnydd arian gyda Banc Barclays ac yn byw yn y Struet. Roedd yn aelod o Glwb Golff Aberhonddu. Cafodd ei symud gan ei gyflogwr i Fryste cyn iddo ymuno â’r Magnelwyr Garsiwn Brenhinol yn 1916. Bu farw o’i anafiadau yn y rhyfel ar 6 Gorffennaf 1917 yn 36 oed, a chafodd ei gladdu yng Nghapel yr Annibynwyr Saron yng Nghwm-wysg, ger y man lle’i ganwyd. Arweiniwyd yr angladd gan weinidog Capel y Plough.
Yn 1916, daeth anghydffurfwyr o bob enwad ynghyd yma i glywed darlith gan y Parch. Elvet Lewis o Lundain. Dywedodd fod y dynion a oedd yn gwasanaethu yn y fyddin wedi darganfod Crist, a bod mwy o Gristnogaeth yn y ffosydd nag yn yr eglwysi gartref. Roedd yn rhagweld diwygiad crefyddol pan fyddai’r dynion yn dychwelyd ar ôl y rhyfel.
Gyda diolch i Steve Morris o Gymdeithas Hanes Lleol a Theulu Sir Brycheiniog
Cod post : LD3 7AU Map
I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, trowch i’r chwith y tu allan i’r capel a dilynwch Heol Cantreselyf i’r Gwrthglawdd. Trowch i’r chwith. Ewch ymlaen i’r Watton. Mae’r codau QR nesaf wrth ymyl yr Eglwys Bresbyteraidd |
![]() |
![]() ![]() |