Eglwys Bresbyteraidd Aberhonddu

PWMP logoEglwys Bresbyteraidd Aberhonddu, Y Watton

brecon_presbyterian_churchAdeiladwyd yr eglwys hon yn yr 1860au oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl ddi-Gymraeg yn Aberhonddu ar ôl dyfodiad y rheilffyrdd, yr Ysgolion Brutanaidd a’r Ysgolion Cenedlaethol (a oedd yn addysgu plant yn Saesneg). Cafodd y tir ar gyfer yr adeilad ei roi gan y diwydiannwr cefnog Mordecai Jones a oedd yn byw drws nesaf, yn yr adeilad sydd bellach yn westy bach o’r enw The Grange. Gosododd ei wraig y garreg sylfaen ym mis Ionawr 1866.

Cafodd yr eglwys, sydd â digon o le i 500 o addolwyr, ei dylunio gan y pensaer o Reading, WF Poulton, a chafodd ei hadeiladu gan y brodyr Williams o Lan-faes, Aberhonddu. Cafodd y meindwr amlwg ei atgyweirio yn yr 1950au ar ôl iddo gael ei ddifrodi gan fellten.

Bu llawer o aelodau’r eglwys yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Rhestr o Wroniaid yn hongian mewn ffrâm yn y festri, ac ymddengys ei bod wedi’i chreu cyn i’r rhyfel ddod i ben. Teitl y rhestr yw “European War, 1914-”, ac nid yw’n cynnwys dyddiad diwedd y rhyfel. O’r 17 o ddynion a restrir, dim ond Charles Davies sydd â’r gair “deceased” wrth ei enw.

Roedd Charles wedi gadael ei swydd fel plastrwr i ymuno â Chyffinwyr De Cymru. Bu farw o salwch yn India ym mis Awst 1916. Roedd yn 24 oed, a gadawodd ei wraig Margaret a’u plentyn.

Bu John Letton, a gaiff ei restru yma hefyd, farw o fethiant y galon yn yr Aifft ym mis Hydref 1916 yn 26 oed. Ceisiodd ymuno â’r fyddin barhaol yn wreiddiol ym mis Tachwedd 1914 ond cafodd ei wrthod am resymau’n ymwneud â’i iechyd.

Caiff y Rhingyll Christmas Morgan ei enwi hefyd. Cafodd ei ladd mewn brwydr yn Ffrainc ym mis Chwefror 1916 yn 32 oed. Roedd wedi ymuno â Chyffinwyr De Cymru ymhell cyn y rhyfel. Yn 1906 cafodd y Preifat Morgan ei ganmol am ei ddewrder ar ôl i Neuadd yr Odyddion yn y dref fynd ar dân. Brwydrodd drwy’r mwg i achub plentyn cyn darganfod bod y ferch wedi mygu’n barod.

Gyda diolch i Steve Morris o Gymdeithas Hanes Lleol a Theulu Sir Brycheiniog ac i Huw Carrod

Cod post : LD3 7ED    Map

I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, trowch i’r chwith y tu allan i’r fynwent ac ewch ar hyd Y Watton, gan basio’r gylchfan, i Amgueddfa’r Cymry Brenhinol. Dyma leoliad y codau QR nesaf
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button