Amgueddfa’r Cymry Brenhinol, Barics Aberhonddu
Amgueddfa’r Cymry Brenhinol, Barics Aberhonddu
Stordy arfau ar gyfer y milisia lleol oedd adeilad yr amgueddfa’n wreiddiol, a adeiladwyd ar y Watton yn 1805. Mae’r adeiladau cerrig solet sydd yn y rhan fwyaf o’r barics yn dyddio’n ôl i’r 1840au. Maent yn cynnwys ystafell fwyta’r swyddogion, cartref y Prif Swyddog ac ysbyty milwrol.
Yn 1873 cafodd y barics eu dynodi’n bencadlys catrodol y 24ain Gatrawd (2il Gatrawd Swydd Warwig) a drodd yn Gyffinwyr De Cymru yn 1881. Un o’r adegau enwocaf yn hanes y gatrawd oedd amddiffyn Rorke’s Drift yn y rhyfel rhwng Prydain a’r Zwlw. Mae gan y gatrawd ei chapel ei hun yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.
Erbyn heddiw, mae’r barics yn gartref i bencadlys Brigâd 160 (Cymru).
Mae Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol yn adrodd hanes milwriaeth yng Nghymru ers i’r 24ain Gatrawd Droed gael ei sefydlu yn 1689. Ffurfiwyd Catrawd y Cymry Brenhinol ei hun yn 2006, ac mae’n ymgorffori treftadaeth hir Cyffinwyr De Cymru, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, y Gatrawd Gymreig a Chatrawd Mynwy.
Mae’r gwrthrychau sydd yn yr amgueddfa’n dangos sut y mae arfau milwyr wedi esblygu rhwng y 18fed ganrif a’r oes fodern. Mae ystafell Rhyfel y Zwlw yn cynnwys arteffactau o’r ymgyrch i amddiffyn Rorke’s Drift, digwyddiad sydd wedi dod yn enwog o’r newydd ers ffilm Syr Stanley Baker yn 1964, Zulu. Caiff dros 3,000 o fedalau eu harddangos yn yr amgueddfa, gan gynnwys 16 Croes Fictoria.
Mae’r amgueddfa hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o ddeunyddiau o’r Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys gwisgoedd milwrol, medalau ac eitemau personol. Bu’r Catrodau a gynrychiolir yn yr amgueddfa yn rhan o rai o ymgyrchoedd mwyaf eiconig Ffrynt y Gorllewin (gan gynnwys Coed Mametz) ac yn Gallipoli. Dyma ran o ffotograff yng nghasgliad yr amgueddfa, sy’n dangos y Gatrawd Gymreig yn Suvla Bay, Gallipoli yn 1915 gyda chychod cludo milwyr yn y pellter.
Gyda diolch i Richard Davies
Cod post: LD3 7EB Map
I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, trowch i’r dde y tu allan i gât yr amgueddfa a dilynwch y Watton i’r gylchfan. Mae’r codau QR nesaf wrth ymyl y clwb rygbi, yr ochr draw i’r ffordd |