Adeilad Clwb Rygbi Aberhonddu

PWMP logoAdeilad Clwb Rygbi Aberhonddu, 63 Y Watton, Aberhonddu

Clwb Rygbi Aberhonddu, a ffurfiwyd yn 1881, yw un o’r 11 o glybiau a oedd yn gyfrifol am sefydlu Undeb Rygbi Cymru. Mae manylion y gêm rygbi gyntaf a gofnodwyd yn y dref, a chwaraewyd ddydd Iau 5 Mawrth 1868, i’w gweld yn y troednodiadau isod.

Symudodd Clwb Rygbi Aberhonddu i’r adeilad hwn, sef yr hen Blue Boar Inn, yn 1993. Roedd y Blue Boar yn un o sawl tafarn yn y Watton. Roedd y ffaith bod y barics milwrol mor agos yn golygu bod llif cyson o gwsmeriaid yn dod i’r dafarn!

Roedd un o’r cwestau niferus a gynhaliwyd yn y Blue Boar yn ymwneud â Frank Green-Price, a fu farw ym mis Ebrill 1885 o anafiadau a ddioddefodd i’w ben ar gae rasys Aberhonddu. Cwympodd ei geffyl wrth geisio neidio dros un o’r clwydi, ac ni ddaeth Frank ato’i hun ar ôl cael ei daro’n anymwybodol. Roedd yn 28 oed. Ei dad oedd Syr Richard Green-Price (1803-87), yr Aelod Seneddol dros Faesyfed.

Cymerodd un o chwaraewyr cyntaf Clwb Rygbi Aberhonddu ran yng ngêm ryngwladol gyntaf Cymru. Bu Richard Davies Garnons Williams yn chwarae rygbi dros Aberhonddu cyn cael ei ddewis yn aelod o dîm cychwynnol Cymru a chwaraeodd yn erbyn Lloegr yn 1881. Roedd yn y fyddin ar y pryd. Ailymunodd â’r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei ladd mewn brwydr yn 1915 yn 59 oed.

Mae llawer o gyn-chwaraewyr eraill Aberhonddu wedi cynrychioli Cymru, a’r diweddaraf o’r rheiny oedd Andy Powell (23 cap i Gymru, 2008-2012). Y cyn-chwaraewr â’r nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol yw Dewi Morris, a gynrychiolodd Loegr 26 o weithiau.

Gyda diolch i Ron Rowsell o Glwb Rygbi Aberhonddu

Cod post: LD3 7EL    Map

I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, trowch i’r chwith y tu allan i’r clwb rygbi, dilynwch y Watton am ychydig a throwch i’r chwith i mewn i Heol Conway. Bydd y codau QR nesaf ar Neuadd Ymarfer y Fyddin
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button