Cartref
Mae HistoryPoints.org yn dod â hanes lleol i’ch ffôn symudol.
Sganiwch y codau QR wrth ymyl HiPoints i dderbyn gwybodaeth ddiddorol am adeiladau, cofebau a nodweddion eraill yn yr ardal. Rydym wedi dethol yr HiPoints (“Historical Points”) oherwydd fod rhywbeth diddorol yn eu cylch.
Wrth sganio’r holl HiPoints mewn tref, gellwch ddysgu'n fuan am yr amgylchfyd o’ch cwmpas – sut, pam a phryd y’i crewyd, pwy oedd yn arfer byw yno, sut y gweithient a llawer mwy.
Nid ffurf o hysbysebu mo HiPoints! Ein partneriaid – di-fasnachol – sy’n eu dewis.
A phaham yr enw HiPoints? Rydym oll yn gyfarwydd â defnyddio “cashpoints” i godi pres o’r banc. . Rŵan gallwn ddefnyddio HiPoints i dderbyn gwybodaeth ddiddorol!
Sut i ddefnyddio HistoryPoints
Mae hynny’n hawdd os oes gennych ffôn symudol efo camera a darllenydd QR. Gellwch lawrlwytho darllenydd o'r we. Wedyn defnyddiwch eich rheolydd ffeiliau i ganfod y meddalwedd QR, dewis “Options” ac yna “Install”. Rŵan rydych yn barad i sganio – hawdd pawdd!
Chwiliwch am blaciau bach yn dynodi HiPoints mewn ffenestri, ar waliau ac mewn amryw o lefydd eraill.
Sganiwch y côd QR uchaf ar y plac i dderbyn crynodeb sydyn am y nodwedd berthnasol. Nid oes angen cysylltu â’r rhyngrwyd i wneud hyn.
I ddarllen mwy, sganiwch yr ail gôd QR, sy’n eich tywys i dudalen yr HiPoint hwnnw ar wefan HistoryPoints.org. Yno gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am y nodwedd, dilyn cysylltiadau at wefanau allanol (e.e. ar gyfer oriau agor), neu i we-lywio at HiPoints eraill o ddiddordeb i chwi.
I weld lleoliad yr HiPoint nesaf, defnyddiwch y mapiau ar HistoryPoints.org.
Os nad yw eich ffôn symudol yn medru cysylltu â’r rhyngrwyd wrth ymyl HiPoint, gellwch achub cyfeiriad y tudalen (yr URL) ar eich ffôn ac agor y dudalen ymhellach ymlaen.
Hefyd gellwch archwilio HistoryPoints.org ar eich cyfrifiadur personol, i ddysgu mwy am eich cymuned leol neu am gymorth i ddewis llefydd i ymweld â hwy. Dewisiwch gategori o ran uchaf y tudalen, ac yna dewis tref i weld yr HiPoints sydd yno yn y categori hwnnw.