Ffigwr angel, 4 Stryd y Castell, Caernarfon
Ffigwr angel, 4 Stryd y Castell, Caernarfon
Mae'r ffigur angylaidd mewn cafn bas uwchben drws ffrynt yr adeilad hwn wedi'i ddyddio o 1628. Mae'r adeilad ei hun yn dyddio o'r 19eg ganrif, felly mae'n ymddangos bod y ffigur wedi'i dynnu o adeilad cynharach.
Dywedir bod y darian yn dangos arfbais y teulu Foxwist, oedd yn ddylanwadol yn ardal Caernarfon ers cenedlaethau lawer. Symudodd y teulu yma o Swydd Gaer yn oes y Tuduriaid. Mae Richard Foxwist, a fu farw ym 1500, yn cael ei goffáu gan blac pres yn Eglwys Sant Peblig sy’n ei ddarlunio’n marw yn ei wely yn dal tarian y mae pum clwyf cysegredig Crist ar y groes arni.
Y Foxwist enwocaf oedd William (1610-1673), mab Richard Foxwist. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1628 (y flwyddyn arysgrif wrth ymyl ffigur yr angel), a galwyd ef i'r bar ym 1645. Ymhlith ei nifer o swyddi oedd barnwr morlys Gogledd Cymru, recordydd St Albans, a barnwr dros cylched Caer (y cyrtiau cyfreithiol rhanbarthol).
Daeth ei gydymdeimlad ag achos y Seneddwr ag amryw benodiadau iddo o dan lywodraeth Amddiffynfa Oliver Cromwell o 1653 ymlaen. Roedd yn un o’r galarwyr yn angladd Cromwell. Roedd yn AS dros Fwrdeistrefi Caernarfon yn 1647-1648 ac yn ddiweddarach yn AS Ynys Môn, Abertawe a St Albans. Mae plac ar adeilad yma bron yn union gyferbyn â ffigur yr angel yn cofnodi mai tŷ tref William Foxwist ydoedd.
Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 1SE Map