Eglwys Llanbeblig, Caernarfon

Eglwys Llanbeblig, Caernarfon

Yn y 13eg ganrif, rhoddodd Llywelyn Ein Llyw Olaf yr eglwys hon i Abaty Aberconwy. Mae'r adeilad a welwn heddiw yn ei hanfod yn ddiweddariad o'r 14eg ganrif o'r eglwys gynharach honno. Ychwanegwyd y tŵr yn y 15fed a'r 16eg ganrif. Gwnaed newidiadau eraill mewn canrifoedd diweddarach, gan gynnwys gwaith adfer mawr ym 1894.

Erys Llanbeblig yn eglwys blwyf. Yn gynnar yn y 14eg ganrif crëwyd Eglwys y Santes Fair, y tu mewn i furiau'r dref, fel capel rhwydd i Eglwys Llanbeblig. Mae Llyfr Oriau Llanbeblig, sy’n dyddio o c.1400, yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru - gallwch ei weld ar wefan y llyfrgell yma. Roedd yn darparu calendr i leygwyr ddilyn arferion litwrgaidd gartref.

Peblig yw'r enw Cymraeg ar Publicius. Ei dad oedd Magnus Maximus, a elwid yng Nghymru fel Macsen Wledig. Ei fam oedd Helen, merch pennaeth o Gymru. Yn ôl y chwedl, gwelodd Macsen hi mewn breuddwyd wrth iddo gysgu yn Rhufain, yna anfonodd negeswyr i ddod o hyd i'r forwyn. Cyrhaeddodd rhai ohonyn nhw Eryri yn y pen draw. Gan gydnabod y mynyddoedd a'r cymoedd roedd Macsen wedi'u gweld yn y freuddwyd, fe ddaethon nhw o hyd i Helen. Mynnodd pe bai Macsen yn ei charu y byddai'n teithio o Rufain i Ogledd Cymru.

Bu Macsen yn rheoli ymerodraeth Rufeinig y gorllewin o 383 hyd ei farwolaeth yn 388. Credir bod Macsen a Peblig wedi treulio amser yng ngwersyll Rhufeinig Segontium, y gellir gweld ei olion ychydig i'r gorllewin o'r eglwys. Dywedir i Peblig sefydlu eglwys yma yn 433. Mae'n debyg bod y fynwent fawr yn tarddu fel mynwent y Rhufeiniaid.

Y tu mewn i Gapel Vaynol mae delwau beddrod yn darlunio William Griffiths (bu farw 1593) a'i wraig Margaret (m.1587), ef mewn arfwisg a hi mewn dillad Tuduraidd. Roeddent yn byw yn Plas Mawr, y tŷ mawr y mae Stryd y Plas wedi'i henwi ar ei ôl.

Cofeb nodedig arall yw'r plac pres ar gyfer Richard Foxwist (d.1500). Mae'n ei ddarlunio yn marw yn ei wely, yn dal tarian, sef pum clwyf cysegredig Crist ar y groes. Ger y brif fynedfa i'r fynwent mae hen Fwthyn y Clochydd, dyddiedig 1825.

Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad

Cod post: LL55 2SZ  Map

Gwefan y plwyf