Eglwys y Santes Fair, Caernarfon

Eglwys y Santes Fair, Stryd yr Eglwys, Caernarfon

caernarfon_old_drawing_showing_churchAdeiladwyd yr eglwys hon ddechrau’r 14eg ganrif; roedd yn gapel ar gyfer garsiwn y dref gaerog newydd. Roedd yn gapel anwes, yn ogystal, i eglwys y plwyf, Llanbeblig, a oedd gryn bellter o'r dref ei hun. Cynlluniwyd Eglwys y Santes Fair gan Henry de Ellerton, dirprwy bennaeth ar y seiri maen a oedd yn ymwneud â’r gwaith adeiladu yng Nghaernarfon. Mae ei waith i’w weld hyd heddiw yn yr eglwys. Newidiwyd gwedd allanol yr adeilad yn sgil ailadeiladu oddeutu 1811.

Mae'r eglwys yn swatio mewn cornel o furiau'r dref, sy'n ffurfio waliau gogleddol a gorllewinol yr eglwys. Mae’r hen ddarlun o Gaernarfon (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn dangos yr eglwys yng nghornel chwith uchaf y dref. Y twmpath ar y dde yw Twtil.

Yn union y tu allan i'r dref gaerog, y tu hwnt i fwa Stryd yr Eglwys, sylwch ar nodwedd anarferol iawn, sef tair ffenestr eglwys yn rhan o wal amddiffynnol ganoloesol. Nid nepell o’r ffenestri hyn roedd y tŵr, tŵr yn amddiffyn man cyfarfod rhannau gwahanol o furiau'r dref. Daethpwyd i’w ddefnyddio fel festri; Tŵr y Gloch yw’r enw arno o ganlyniad i hynny.

Mae safle’r eglwys wedi cau hen gilborth, sef bwlch bychan ym muriau’r dref a oedd, ar un adeg, yn llwybr rhwng y dref a'r cei gyferbyn

Yn y wal ddeheuol mae ffenestr “Jesse”, sy'n dangos cyswllt teuluol rhwng Iesu Grist a Jesse, cymeriad o’r Hen Destament. Gwnaed y ffenestr yn 1910 gan stiwdio Westlake yn Llundain i goffáu un o deulu Coed Helen a oedd newydd farw. Mae arfbais y teulu yn rhan o’r ffenestr. Roedd rhan helaethaf ystad Coed Helen gyferbyn â’r castell, ar draws afon Seiont.

Cod post: LL55 1UN     Map

Gwefan y plwyf

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button