Cofeb Lionel Rees VC, Caernarfon
Cofeb Lionel Rees VC, Caernarfon
Ar wal Porth yr Aur fe welwch blac er cof am Lionel Wilmot Brabazon Rees, a enillodd y Groes Fictoria am ei gampau fel peilot ymladd yn 1916. Roedd yn aelod o’r Clwb Iotio Brenhinol Cymru, sydd a’i ganolfan yn y tŵr. Dangosir ei bortread yma trwy garedigrwydd yr Imperial War Museum.
Cafodd ei eni ym Mhlas Llanwnda, Stryd y Castell. Roedd ei dad, Cyrnol Charles Rees, yn gyfreithiwr. Wedi ei addysg yn Swydd Gaerwrangon a Sussex, mynychodd Lionel yr Academi Filwrol Frenhinol. Ym 1903 ymunodd â'r Royal Garrison Artillery a gwasanaethodd am chwe blynedd yng Ngorllewin Affrica.
Cymerodd Lionel wersi hedfan ac fe gafodd ei drwydded beilot ym mis Ionawr 1913. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, gwirfoddolodd â'r Royal Flying Corps. Aeth i'r Ffrynt Gorllewinol yn 1915. Derbyniodd Lionel y Groes Filwrol am ei ddewrder a'i ddycnwch mewn nifer o gyfarfyddiadau ag awyrennau'r gelyn yr haf hwnnw.
Ar 1 Gorffennaf 1916 bu farw miloedd o filwyr Prydain wrth i Frwydr y Somme gychwyn, tra bu awyrennau Prydeinig ac Almaenig yn gwrthdaro yn yr awyr uwchben. Yn hwyr yn y prynhawn, gwelodd Lionel awyrennau bomio yn y pellter. Tybiai mai rhai Prydeinig oeddynt, ond roeddynt yn perthyn i’r Almaen. Yn lle cilio, aeth atynt yn ei awyren ddwbl. Llwyddodd gynnwr ei awyren i saethu lawr un awyren a difrodi un arall. Er cymaint yn fwy oedd nifer yr awyrenau Almaenig, parhaodd y ddau i fynd i’r afael â'r gelyn nes iddynt redeg allan o ffrwydron rhyfel. Yna fe ddechreuodd Lionel i danio ei lawddryll.
Difrododd bwledi dryll peiriannol Almaenig ei awyren a tharo clun chwith Lionel, ond fe laniodd yn llwyddiannus. Cafodd ei gadw yn yr ysbyty am chwe mis. Am ei weithredoedd y diwrnod hwnnw, cafodd y Groes Victoria, gwobr dewrder uchaf Prydain. Gwnaed ef yn rhyddfreiniwr Caernarfon yn 1919.
Yn 1917 cafodd ei anfon i America i gynghori Byddin yr Unol Daleithiau ar sefydlu corfflu awyr, yn dilyn dyfodiad diweddar UDA i'r rhyfel. Ar ôl y rhyfel, gwnaeth Lionel amryw swyddi yn y Llu Awyr Brenhinol, gan ymddeol yn 1931. Fe’i alwyd yn ôl yn yr Ail Ryfel Byd.
Hwylio oedd difyrrwch Lionel, ac ym mis Gorffennaf 1933 gadawodd Caernarfon ar ei ben ei hun ar May, ei gwch hwylio dau-hwylbren. Hwyliodd i'r Bahamas, gan gyrraedd ym mis Hydref y flwyddyn honno, ac aeth ymlaen i Florida ac yna i Efrog Newydd. Cyflwynwyd Medal Dŵr Glas iddo gan Glwb Mordeithio America.
Yn ôl yn y Bahamas, priododd Lionel â Sylvia Williams ym mis Awst 1947. Cafodd y cwpl ddau fab a merch, ond byr bu eu hamser gyda'i gilydd. Bu farw Capten Grŵp Rees o lewcemia yn 1955, yn 71 oed. Cafodd ei gladdu yn Nassau, Bahamas.
Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa’r Ffrynt Cartref, Llandudno
Cod post : LL55 1SN Map