Clwb Iotio Brenhinol Cymru, Caernarfon

slate-plaque

Clwb Iotio Brenhinol Cymru, Caernarfoncaernarfon-regatta

Credir mai cartref Clwb Iotio Brenhinol Cymru – sydd a’i gartref yn un o byrth Wal y Dref sef Porth-yr-Aur - yw'r adeilad hynaf sy'n eiddo i unrhyw glwb hwylio. Adeiladwyd y strwythur c.1284 fel Porth y Gorllewin ein tref gaerog.

Sefydlwyd y clwb ym 1847 o dan nawdd y Dowager Queen Adelaide, gweddw'r Brenin William IV. Parhawyd y nawdd brenhinol gan Albert Edward, Tywysog Cymru, pan nad oedd ond 18 oed, a chadarnhawyd hyn ganddo pan ddaeth yn Frenin Edward VII. Roedd regatas y clwb yn ddigwyddiadau ysblenydd.

Symudodd y clwb i Porth-yr-Aur ym 1854. Roedd y cyfleusterau'n cynnwys ystafell ddarllen ac ystafell biliards. Mae'r llun (trwy garedigrwydd Clwb Iotio Brenhinol Cymru) yn dangos regata Fictoraidd, gyda Porth-yr-Aur ar y dde.

Yn 1856 crëwyd ystafell wely warden yn y llofft. Y warden o 1890 oedd y cyn-filwr Rhyfel y Crimea, yr Uwch-gapten William Tegarty, a oedd yn gwisgo iwnifform y clwb (côt las a gwasgod wen neu las). Bu farw yn y clwb yn 1898 ac olynwyd ef gan ei weddw Elizabeth, y daeth ei merch Augusta yn warden ym 1912. Enwir Bar Tegarty y clwb er anrhydedd iddynt.

Commodore cyntaf Clwb Iotio Brenhinol Cymru oedd Henry Paget, Marcwis cyntaf Ynys Môn. Ef arweiniodd y cafalri o dan Ddug Wellington ym Mrwydr Waterloo, lle collodd ei goes dde. Is-Commodore cyntaf y clwb oedd y peiriannydd Robert Stephenson, dylunydd Pont Britannia ar draws Culfor Menai. Y Rear-Commodore cyntaf oedd Syr Llewelyn Turner, Maer Caernarfon.

Mae aelodau'r clwb wedi cyflawni gorchestion morwrol gwych, gan gynnwys croesi’r cefnforoedd mawr a hwylio o gwmpas y byd. Yn eu plith roedd Lionel Rees, enillydd y Victoria Cross, a hwyliodd  i'r Bahamas, Florida ac Efrog Newydd ym 1933, camp a enillodd iddo fedal gan Glwb Mordeithio America. Mae'r clwb yn parhau i drefnu digwyddiadau hwylio, rhwyfo a chymdeithasol, gan gynnwys y regata blynyddol.

Gyda diolch i Mo Judge, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1SN    Map

Gwefan Clwb Iotio Brenhinol Cymru

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button