Bwthyn y Clochydd, Llanbeblig
Bwthyn y Clochydd, Llanbeblig
Mae'r bwthyn hwn, ger y brif fynedfa i Eglwys St Peblig, gyda’r dyddiad 1825 ar blac llechen crwn uwchben y drws. Mae bellach yn dŷ preifat – peidiwch â mynd i mewn i'r bwthyn neu'r ardd.
Roedd agoriad mawr ym mhen talcen yr adeilad sy'n wynebu'r briffordd, ar gyfer hers a dynnwyd gan geffyl. Roedd yr adeilad hefyd yn gartref i’r clochydd. Ei waith oedd cynnal a chadw'r eglwys a'r fynwent, gan gynnwys torri beddau mae'n debyg.
Ariannwyd yr adeilad gan arian o bedair elusen blwyf, ac un ohonynt yn gymynrodd gan Miss Margaret Griffith, chwaer ieuengaf John Griffith o Brynydol. Bu farw ym 1774 a gadawodd £ 20 i dlodion y plwyf. Dosbarthwyd llog o'r arian gan yr wardeniaid.
Un arall o’r elusennau oedd cymynrodd Miss Margaret Jones, a fu farw ym 1716. Roedd llog y gronfa yn talu am fara, yn cael ei ddosbarthu i’r tlodion ar sawl Sul bob blwyddyn. Daeth cyfraniad arall o gymynrodd Lewis Thomas o Gaernarfon, a dosbarthwyd y llog arno ar Ddydd Sant Thomas (21 Rhagfyr).
Y clochydd yn oes Fictoria oedd Thomas Morris, yn wreiddiol o Dreffynnon, Sir y Fflint. Ar ôl iddo farw ym 1914, yn 82 oed, adroddwyd yn y wasg ei fod yn un o griw bach o ddynion a beryglodd eu bywydau yn ddewr yn ystod achos o golera yng Nghaernarfon yn y 1860au (pan gredwyd yn eang bod y clefyd yn cael ei drosglwyddo trwy'r awyr) . Mae'n debyg bod hyn wedi cyfeirio at gladdu dioddefwyr colera yn St Peblig’s.
Caewyd rhan isaf yr agorfa ar gyfer yr hers a daeth y rhan uchaf yn ffenestr. Mae rhai o'r coblau gwreiddiol wedi goroesi ger yr hen fynedfa hers.
Gwerthodd yr Eglwys yng Nghymru yr adeilad yn 2007 ond arhosodd yn wag a dechreuodd ddadfeilio tan 2013, pan ddechreuodd perchennog newydd adfer yr adeilad ei drawsnewid yn ôl i ddefnydd preswyl. Mae'r plac llechen sydd wedi'i osod yn y talcen yn darllen (yn Saesneg): “Eiddo Plwyf Llanbeblig. 1825. Y Parchg J W Trevor, Ficer, D Rowlands, Wardeiniaid Eglwys H Owen”.
Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 2ES Map