Safle protest gwrth-Wyddelig, Caergybi
Safai rhes o dai a siopau ar un adeg lle gwelwch faes parcio Stanley Crescent heddiw. Yn 1851 bygythiodd tyrfa ddinistrio cartref masnachwr Gwyddelig yma, ond safodd y masnachwr ei dir. Mae’r llun o tua 1889, trwy garedigrwydd Archifau Ynys Môn, yn dangos y South Stack Welcome, hostel morwyr a agorodd yn Stanley Crescent yn 1893.
Ymfudodd llawer o bobl o Iwerddon i Brydain Fawr trwy Gaergybi yn ystod y Newyn Mawr. Roedd sawl blwyddyn o falltod tatws wedi amddifadu Iwerddon o’i phrif fwyd, a chredir bod tua miliwn o Wyddelod wedi marw o newyn ac afiechyd rhwng 1846 a 1851.
Nid oedd mewnfudwyr Gwyddelig bob amser yn cael eu croesawu yn nhrefi Cymru.
Ym mis Mai 1851 bu streic gan tua 1,200 o ddynion a oedd yn adeiladu morglawdd Caergybi. Roeddent yn mynnu cael gwared ar y llafurwyr Gwyddelig a gyflogwyd ar y prosiect. Cafodd y 25 Gwyddel eu “llusgo o gwmpas mewn modd treisgar”, a ffodd rhai ar stemar i Kingstown (Dun Laoghaire erbyn hyn). Yna sgwriodd y “dorf gynddeiriog” y dref, gan dorri i mewn i dai lle'r oedd Gwyddelod yn byrddio.
Llwyddodd llawer o drigolion Gwyeddlig i ddianc rhag y trais trwy guddio mewn lleoedd fel cypyrddau a blychau. Aeth rhai o’r dynion i mewn i 1 Stanley Crescent, lle’r oedd y Gwyddel James Nugent, 62, yn byw ac yn cadw siop.
Roedd rhai o'i blant a ŵyr bach yn byw gydag ef. Roedd James yn fasnachwr gwirodydd a groser cyfanwerthu. Mynnodd y tresmaswyr bod yn rhaid iddo hel allan dau Wyddel ar unwaith a oedd wedi gweithio iddo am flynyddoedd lawer.Pan wrthododd James, dywedwyd wrtho y byddai ei dŷ yn cael ei ddymchwel. Cloodd y siop, ond ni chyflawnodd y dynion eu bygythiad.
Aethant i chwilio am dargedau haws: dywedwyd bod y dorf wedi curo a cham-drin gwragedd a phlant Gwyddelod a'u troi allan i'r stryd. Roedd James wedi symud i Gaergybi tua 1849 o Kingstown, lle'r oedd yn un o'r comisiynwyr a oruchwyliodd y gwelliannau i'r dref.
Dadleuodd o blaid gwelliannau tebyg yng Nghaergybi, gan gynnwys gwell cyflenwadau nwy a dŵr. Bu farw fis Mawrth 1853.
Cod post: LL65 1UL Map y lleoliad