Morglawdd Caergybi

button-theme-irish-welsh button-theme-history-for-all-W

BSL-USED-HERE---logoholyhead_breakwater_and_lighthouseYma mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio morglawdd hiraf Prydain, sy’n 2.4km o hyd. Rhestrir y morglawdd fel strwythur hanesyddol. Felly hefyd y goleudy yn y pen pellaf, fel enghraifft o olau harbwr sydd wedi cadw llawer o'i gymeriad gwreiddiol (llun uchaf). Amddiffynnwyd yr ardal yn gryf yn yr Ail Ryfel Byd – gweler isod.

Adeiladwyd yr arglawdd mewn tri cham, o 1847 i 1873, mewn ymateb i’r twf yn nifer a maint y llongau a ddeuai i Gaergybi. Cludwyd y rhan fwyaf o’r cerrig ar reilffordd trac-llydan o Fynydd Caergybi gerllaw, lle mae’r chwareli segur bellach yn ffurfio Parc Gwledig y Morglawdd. Gosodwyd calchfaen o Foelfre yn wyneb ar y strwythur.

Aeth gweithwyr Cymreig (tua 1,200 o ddynion) y morglawdd a’r chwareli ar streic yn Mai 1851 mewn protest yn erbyn defnyddio gweithwyr Gwyddelig. Ymosododd y dorf ar y 25 Gwyddel oedd yn gweithio ar y pryd, a cheisiodd eu gorfodi nhw i gyd i adael Caergybi ar y fferi nesaf.

Drawing of Holyhead Breakwater under construction

Ffodd rhai mewn cychod i Turkey Shore gerllaw, tra aeth 14 heb yr un geiniog i Kingstown (Dun Laoghaire bellach). Yna aeth y dorf ati i chwilio am ddynion, merched a phlant Gwyddelig yn y dref ac ymosod arnynt. Anfonodd y Morlys forwyr i Gaergybi ar long rhyfel i adfer trefn.

Perfformiwyd seremoni cwblhau’r morglawdd yn 1873 gan Dywysog Cymru a Dug Caeredin. Adroddodd y wasg fod 3,500 o longau bob blwyddyn yn llochesu yn yr harbwr.

Ar noson 25-26 Hydref 1859, cysgododd llong fwyaf y byd – y Great Eastern a gynlluniwyd gan Brunel – yn yr harbwr rhag “storm y Royal Charter”, fel y’i gelwir oherwydd y llongddrylliad ym Moelfre a laddodd mwy na 400 o bobl. Bu'r Great Eastern, a adeiladwyd yn ddiweddar, yn destun grymoedd mor bwerus y noson honno fel y plygwyd ei chadwyn angori, ond goroesodd y llong. Cafodd y morglawdd ei ddifrodi'n ddrwg. Mae'r llong i'w gweld ar y chwith yn y llun o'r Illustrated London News (chwith) o'r morglawdd, sy'n cael ei adeiladu.

holyhead_soldiers_point

Ar ochr y tir i'r morglawdd, adeiladwyd tri safle amddiffynnol yn ystod yr Ail Ryfel Byd rhag ofn i fyddin yr Almaen geisio glanio i'r gogledd-orllewin o Gaergybi. Yn dal i fod yn amlwg mae’r blocws (‘pillbox’) hirsgwar mawr sy’n edrych dros yr Harbwr Newydd gyda’i do concrit cyfnerthedig a’i ‘dyllau bylchau’ wedi’u torri i mewn i’r ochr. Mae mwy o fylchau wedi’u lleoli o fewn y waliau sy’n amgylchynu Soldier’s Point House gerllaw. Gellir gweld olion waliau a gwaelod blocws hecsagonol sydd bellach wedi'i ddymchwel – roedd y blocws yn edrych dros y cildraeth bach i'r gorllewin o'r morglawdd.

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button

Troednodiadau: Mwy am Soldier’s Point

Gelwir yr ardal hon o Gaergybi yn Soldier’s Point. Roedd Charles Rigby, contractwr ar gyfer adeiladu’r morglawdd, yn byw yn y tŷ castellog mawr o’r enw Soldier’s Point House, a adeiladwyd ym 1849 (llun uchod). Bu hefyd yn gweithio ar rai o brosiectau peirianneg sifil Brunel. Roedd yn ynad Ynys Môn ac yn bennaeth ar Ail Wirfoddolwyr Magnelwyr Môn.

Ym mis Mawrth 1918 cyhuddwyd perchennog y tŷ, Lieut AF Pearson, cadeirydd yr ynadon lleol, o gelcio bwyd yn cynnwys reis, jam a siwgr. Cafodd y cyhuddiadau eu gollwng ar ôl iddo egluro bod milwyr clwyfedig yn cael te yn y tŷ bob dydd Sul. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, atgyfnerthwyd rhan o'r adeilad i ffurfio blocws amddiffynnol, gydag agoriadau cul ar gyfer tanio gwn. Difrodwyd yr adeilad gan dân yn 2012.