Capel Jerusalem, Bethesda

button-theme-evacCapel Jerusalem, Bethesda

bethesda_capel_jerusalem

Adeiladwyd y capel Methodistaidd Calfinaidd cofrestredig Gradd 1 hwn ym 1842, ac fe’i ehangwyd yn y 1870au. Erbyn hynny gallai eistedd 900 o addolwyr yn gyffyrddus, neu 950 o ddefnyddio’r “ystlysau”. Yn y cefn ‘roedd “parlwr”, ysgoldy, a darlithfa ar gyfer dros 150 o bobl.

Cynlluniwyd y tu mewn fel bod lleisiau’n cario’n glir, ac fe’i ailwampiwyd yn ystod y 1870au ar ffurf amffitheatr neu neuadd ddarlith mewn coleg. Golyga hyn bod seddau’r llawr a hefyd rhai’r galeri ar ogwydd. O fewn y canol agored mae seddau crwm, a sedd hanner cylch lle’r arferai’r côr a’r gerddorfa eistedd - yn y cyfnod yma, anghyffredin iawn oedd cael côr a cherddorfa sefydlog mewn capel Methodistaidd.

Ychwanegwyd eto at yr ystafelloedd y tu ôl i’r capel c. 1900, ac yn y capel gosodwyd organ ail-law, a oedd gynt yn Neuadd y Dref, Huddersfield, ym 1905. Mae’r organ yn amlwg yn y llun o’r tu mewn, gan Thomas Bassler.

bethesda_capel_jerusalem_interior

Ym 1939, ymddiswyddodd gweinidog y capel, sef y Parchedig T Arthur Jones, mewn protest oherwydd penderfyniad blaenoriaid y capel i wrthod caniatáu i faciwîs y rhyfel gael eu dysgu yn yr ystafelloedd cefn. Anfonwyd llawer o blant i Fethesda o drefi yn Lloegr er mwyn eu diogelu rhag y cyrchoedd awyr a ddisgwylid yno. Nid oedd gan yr ysgolion le ar gyfer y mewnlifiad, ond gwrthododd y blaenoriaid dair apêl yn erbyn eu penderfyniad. Yn ei lythyr ymddiswyddiad, dywedodd Mr Jones wrth awdurdodau’r eglwys ei fod yn crdeu bod eu penderfyniad yn “annheilwng o’r Eglwys Gristnogol a’i Sylfaenydd”.

Os hoffech weld y tu mewn, trefnwch efo Walter Williams, ffôn: 01248 601167

Diolch i Thomas Bassler, ac i Menai Williams am y cyfieithiad

Cod post: LL57 3AR   Map

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button